Drysau Agored - Hen Swyddfa Ddosbarthu Swyddfa'r Post
Adeilad warws mawr Fictoraidd mewn arddull eclectig Gothig diweddar/Dadeni a adeiladwyd tua 1890. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd yn gartref i Swyddfa Ddosbarthu Swyddfa'r Post. Mae'r adeilad sy'n wynebu Bull Lane yn cynnwys tair rhes o adeiladau deulawr. Mae'r adeilad olaf yn floc pen 3 rhaniad gyda thalcen addurniadol. Mae gan hwn derfyniadau pêl ac elfennau pigfain a grisiau, gyda philastrau allanol gwastad i lawr i lefel y llawr cyntaf, lle maent yn dod i ben. Mae'n adeilad rhestredig gradd 11 sy'n arddangos cymeriad Fictoraidd diweddar da gyda manylion teracota cain
Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2025 yn lansio ddydd Gwener 19 Medi 2025 gyda darlith gyda'r nos yn archwilio gweithredoedd eiddo yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, dydd Sadwrn a dydd Sul 20 a 21 Medi 2025 rhwng 10am a 5pm bydd dros dri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd, ynghyd â sgyrsiau a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd, sgyrsiau a theithiau tywys sydd â nifer cyfyngedig o leoedd ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at y penwythnos ei hun. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://darganfoddinbych.cymru https://twitter.com/OpenDoors_D https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Bull Lane, Dinbych, LL16 3SA
Defnyddiwch yr wybodaeth a roddir am y lleoliad ar eich dyfais electronig neu'r map a ddarperir ar daflen Drysau Agored Dinbych 2025. ///what 3words: (CYM) ///pinio.llwydo.amgueddfa (ENG) //verbs.cats.engrossed
Mae gwasanaethau Bysiau 51/51b a X51 yn gweithredu o'r Rhyl a Wrecsam i Ganol Tref Dinbych.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 21 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|