Saif Llwyn Celyn ar lannau’r Afon Honddu yn y Mynydd Du. Cafodd ei adeiladu yn 1420, ar diroedd Priordy Llanddewi Nant Hodni, ac maen un o’r adeiladau prin o’r cyfnod hwn sydd wedi goroesi.
Mae Llwyn Celyn yn llawn nodweddion canoloesol, nid yw wedi newid prin ddim ers oddeutu 1690. Mae wedi cael ei warchod a'i adfer yn ofalus gan y Landmark Trust, a bydd yr adeilad ar agor mewn cydweithrediad â Drysau Agored Cadw.
Er nad yw’n hanfodol i chi archebu lle, gofynnwn i chi gofrestru drwy Eventbrite er mwyn i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y digwyddiad. Archebwch docynnau am ddim ar-lein: https://www.landmarktrust.org.uk/news-and-events/opendays/llwyn-celyn-open days-september-2026
Cyfeiriad - Cwm-iou, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7NE.
Mae Llwyn Celyn ychydig filltiroedd i'r gogledd o'r Fenni. O'r A465, trowch i mewn i bentref Llanfihangel Crucornau. Wrth dafarn y Skirrid Inn, dewiswch y ffordd tuag at Briordy Llanddewi Nant Hodni. Bydd Llwyn Celyn ar y chwith, tua milltir o’r pentref. Cod post yr eiddo yw NP7 7NE, gallwch ei ddefnyddio ar eich sat nav ac yna dilyn yr arwyddion parcio pan welwch hwy.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 13 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|