Drysau Agored - Mynwent Gwynllyw, Casnewydd
Y fynwent drefol fawr hon oedd y fynwent drefol gyntaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys pedwar capel, cofebau Fictoraidd addurnedig a Chroes Aberth Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a llain Beddau Rhyfel swyddogol.
Bydd Andrew Hemmings, tywysydd teithiau achrededig Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, yn siarad am waith y Comisiwn yn y ddau Ryfel Byd ac ar ôl hynny, ac am bensaernïaeth a garddwriaeth mynwentydd Beddau Rhyfel yng Nghasnewydd a ledled y byd.
Bydd y daith yn para 1 awr, gyda’r cyfle i siarad wrth gerdded y llwybrau geirwon i’r llain Beddau Rhyfel. Mae hon yn Fynwent Ffrynt y Gorllewin ar raddfa lai.
NI FYDD y daith yn amodol ar y tywydd.
Mae angen archebu lle. Archebwch le trwy wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ac Eventbrite.
Lleoliad - Ffordd Basaleg, Casnewydd, NP20 3PY.
Mae’r bws rhif 151 o Gasnewydd i Drecelyn yn stopio wrth gatiau’r fynwent.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 07 Medi 2025 |
14:00 - 15:00
|