Skip to main content

Agorwyd Neuadd Goffa Ceiriog yn 1911 fel cofeb barhaol i'r bardd Cymraeg enwog John Ceiriog Hughes, a Chymry nodedig eraill sy'n gysylltiedig â'r ardal. Mae gan yr adeilad gasgliad o ffenestri lliw cywrain a cherfluniau, ac amgueddfa a adnewyddwyd yn ddiweddar sy'n cynnwys nifer o arddangosfeydd diddorol.

Teithiau tywys. Lluniaeth ysgafn.

Cyfeiriad: Neuadd Goffa Ceiriog, Stryd Fawr, Glyn Ceiriog, Llangollen, LL20 7EH.

Ewch ar y B4500 o'r Waun i Glyn Ceiriog. Wrth y cylchfan bach yng nghanol y pentref, trowch i'r dde i'r Stryd Fawr. Y neuadd yw'r adeilad gyda'r cloc mawr.

Bws - 64 (Llangollen - Llanarmon DC).

Ceir mynediad fel rheol i fyny'r prif stepiau o'r Stryd Fawr.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
13:00 - 16:00
Sad 14 Medi 2024
13:00 - 16:00