Skip to main content

Wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio rhoddion gan y cyhoedd fel cofeb i drigolion lleol a fu'n ymladd ac a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Agorwyd y Neuadd Goffa gan y cyn-Brif Weinidog, David Lloyd George, yn 1924, ac mae'n dal i gynnwys rhai nodweddion Art Deco gwreiddiol, gan gynnwys y drysau derw crwm a chanddynt baneli gwydr, sy'n amgylchynu'r Cyntedd Coffa a’i deils chwarel.
Mae gwaith celf mwy diweddar yn yr ardd, y gellir ei gyrchu drwy'r gatiau haearn gyr addurnedig a roddwyd gan Sefydliad y Merched Cricieth, yn ogystal â’r Garreg Orchest (carreg godi), sydd â chysylltiadau â thraddodiadau Cymreig hynafol.

I ddathlu canmlwyddiant y Neuadd, gwahoddir pobl i ymuno â thaith o amgylch yr adeilad a'i erddi, lle byddant yn clywed straeon am y neuadd a'i dylanwadau dros y 100 mlynedd diwethaf.
Bydd y daith hefyd yn cynnwys ardaloedd cefn llwyfan, na welir yn aml gan aelodau'r cyhoedd ond sy'n gyfarwydd i'r cannoedd o artistiaid sydd wedi perfformio yma dros y degawdau, gan gynnwys Gerry and the Pacemakers, a berfformiodd un o'u caneuon enwocaf yma am y tro cyntaf.
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu eich atgofion eich hun dros baned ar y diwedd.

Yn rhad ac am ddim, ond mae angen archebu. 
Cysylltwch â Ben Rosen, swyddog archebu'r neuadd, ar -
bookings@cricciethmemorialhall.com

Cyfeiriad - Neuadd Goffa Cricieth, Stryd Fawr, Cricieth, LL52 0HB.

Mae'r neuadd wedi'i lleoli ar y Stryd Fawr, sef y brif ffordd trwy Gricieth.
Mae arosfannau bysiau (bws 3, Porthmadog - Pwllheli) wrth ymyl y neuadd, ac mae Gorsaf Reilffordd Cricieth tua 5 munud i ffwrdd ar droed.
Mae’r parcio yn gyfyngedig, ond mae sawl maes parcio yn y dref.


Prisiau

Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
11:00 - 12:30