Drysau Agored - Neuadd Seiri Rhyddion Penarth
Wedi'i lleoli yng nghanol Penarth, ger Caerdydd a Bae Caerdydd a glan y môr a pier Penarth, adeiladwyd y Neuadd yn 1927 ac mae wedi cael ei hadnewyddu'n ofalus yn barod ar gyfer ei dathliadau canmlwyddiant. Mae'r Neuadd yn cynnwys cofnodion Seiri Rhyddion Penarth sy'n dyddio'n ôl i 1878, gyda Byrddau Anrhydeddau trawiadol yn enwi pob Meistr, ar gyfer y rhai sy'n ymchwilio i hanes teuluoedd lleol.
Defnyddir Neuadd Seiri Rhyddion Penarth fel lleoliad digwyddiadau, gydag ystafelloedd digwyddiadau art deco wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar.
Ar gyfer Drysau Agored, ewch ar daith hanesyddol o amgylch Neuadd Seiri Rhyddion Penarth o 1927. Mae'r Neuadd yn rhan o dreftadaeth ddiweddar Penarth, a dyma'r trydydd adeilad o'r fath gan seiri rhyddion lleol ers 1878, sy'n cynnwys llawer o'r dreftadaeth ers hynny.
10am - 4pm. Neuadd Ddawns Plymouth ar agor gyda Ffair Celf a Chrefft, a diodydd a chacennau.
Teithiau am 10.30am, 11.30am, 12.30pm, 1.30pm, 2.30pm. Mae teithiau'n para 30 munud; dim mwy na 15 o bobl ar bob taith.
Er gwybodaeth: ffôn 02920 709330; e-bost: query@penarthmasonichall.co.uk
Dim angen archebu.
Darganfyddwch beth sydd y tu mewn i'r adeilad hwn yr ydych yn gyrru neu’n cerdded heibio iddo bob dydd.
Cyfeiriad - Neuadd Seiri Rhyddion Penarth, 55 Heol Stanwell, Penarth, CF62 2AB.
Lleoliad - Heol Stanwell ym Mhenarth. Maes parcio am ddim, parcio i'r anabl o flaen yr adeilad, lifft y tu mewn i'r prif
ddrws i weld y Deml ac Ystafell Treftadaeth Windsor.
Mae Neuadd Ddawns Plymouth gyda'r Ffair Gelf a Chrefft a Lolfa’r Barbariaid, sy'n gweini te, coffi a chacennau, i gyd ar y llawr gwaelod.
Mae toiledau ar y llawr gwaelod, gan gynnwys toiled anabl.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 14 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|