Skip to main content

Mae Neuadd y Dref yn gartref i Gyngor Tref Conwy, yn cynnwys Parlwr y Maer, a adeiladwyd yn y 19eg ganrif, siambr y cyngor a'r fynedfa a ychwanegwyd yn 1925. Mae adeiladau wedi sefyll ar y safle ers y 13eg ganrif.

Ceir casgliad graenus iawn o baentiadau olew. Yn arbennig o drawiadol yw’r paentiad o Ddyffryn Conwy gan Clinton Jones RCA. Ceir hefyd lun olew dramatig gan Richard Wilson. Yn hongian uwchben y paentiadau mae un o baneli argaenwaith mawr Castell Conwy.

Cyfeiriad - Guildhall, Rose Hill Street, Conwy, LL32 8LD.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00