Drysau Agored - Neuadd y Dref, Dinbych
Dyma un o'r ychydig adeiladau dinesig ym Mhrydain a adeiladwyd yn gyfan gwbl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n sefyll ar safle lle arferai neuadd farchnad fod o’r blaen ac yn wreiddiol roedd ganddo do cromennog. Fe'i cynlluniwyd i fod yn neuadd y dref, neuadd farchnad a gorsaf dân ynghyd. Roedd cyngor y dref yn arfer cwrdd yn neuadd y sir, sy’n dyddio o'r 16eg ganrif ac sydd bellach yn gartref i Lyfrgell Dinbych. Dyma’r ganolfan gyfarfod ganolog drwy gydol Penwythnos Drysau Agored Dinbych. Mae cyngor y dref yn dal i ddefnyddio siambr y cyngor.
Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2025 yn lansio ddydd Gwener 19 Medi 2025 gyda darlith gyda'r nos yn archwilio gweithredoedd eiddo yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, dydd Sadwrn a dydd Sul 20 a 21 Medi 2025 rhwng 10am a 5pm bydd dros dri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd, ynghyd â sgyrsiau a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd, sgyrsiau a theithiau tywys sydd â nifer cyfyngedig o leoedd ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at y penwythnos ei hun. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://darganfoddinbych.cymru https://twitter.com/OpenDoors_D https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Gweler http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/ i gael mwy o fanylion.
Neuadd y Dref Dinbych, Lôn y Goron, LL16 3TB.
Yng nghanol y dref. Safleoedd bysiau ar y Stryd Fawr. Bysiau 51, 52 i Ddinbych.
Defnyddiwch yr wybodaeth a roddir am y lleoliad ar eich dyfais electronig neu'r map a ddarperir ar daflen Drysau Agored Dinbych 2025. ///what What3Words: ((CYM) ///anwesol.gwasgariad.gwlychu (Eng) ///scan.slams.satellite
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
12:00 - 16:00
|
Sul 21 Medi 2025 |
12:00 - 16:00
|