Drysau Agored - Neuadd y Dref Maesteg
Neuadd y Dref yw canolbwynt diwylliannol Maesteg. Fe’i hadeiladwyd yn 1881, cyn cael ei hailddatblygu yn 1914 ac unwaith eto yn 2024, ac mae’n llawn hanes a diwylliant: o lenyddiaeth a gwaith celf i sinema, comedi, cerddoriaeth a theatr. Erbyn hyn, mae’r llawr gwaelod yn gartref i Lyfrgell Maesteg, yn ogystal â chaffi. Bydd yr awditoriwm a’r stiwdio ‘Bocs Oren’ ar y llawr cyntaf ar agor i ymwelwyr hefyd.
Ymunwch â ni am Brynhawn Treftadaeth arbennig yn Neuadd y Dref, Maesteg ar ei newydd wedd, a ailagorodd ym mis Tachwedd 2024. Yn yr awditoriwm cewch ddysgu am hanes yr adeilad a gweld paentiadau gan yr artist lleol enwog Christopher Williams. Ar gyfer y Diwrnod Treftadaeth Drysau Agored rhad ac am ddim hwn, bydd arddangosfa amlgyfrwng arbennig a grëwyd gan VisionFountain, 'Wales: A Home from Home', hefyd yn yr awditoriwm.
6 Medi 2025 12pm–4.30pm Bydd Neuadd y Dref, Maesteg, ar agor rhwng 9am a 5pm, ond dim ond rhwng 12 hanner dydd a 4.30pm y bydd yr awditoriwm ar agor.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Med 2025 |
12:00 - 16:30
|