Drysau Agored - Parc Iscoed
Plas Sioraidd clasurol wedi’i wneud o frics coch, o’r ddeunawfed ganrif (Gradd II*), wedi’i leoli yng nghanol parcdir. Mae’r tai allan helaeth wedi’u haddasu ar gyfer defnydd amrywiol, yn cynnwys swyddfeydd a llety. Cynhelir priodasau yn y tŷ, ond mae’r teulu’n dal i fyw yno.
2 daith (90-120 munud) yn canolbwyntio ar yr hanes pensaernïol a chymdeithasol, a hefyd ar hanes y teulu. Fe’u cynhelir gan un o aelodau’r teulu.
Mae angen archebu lle.
Ceir dwy daith yn cychwyn am 10:30 a 14:30. Hyd at 20 unigolyn ar bob taith.
Dylid trefnu lle trwy gysylltu â estateoffice@iscoydpark.com, neu Ann Powell 01948 780785, neu Philip C Godsal ar 01948 781117.
Cyfeiriad - Parc Iscoed, SY13 3AT.
Ceir arwyddion ar gyfer Parc Iscoed ar yr A525 rhwng Wrecsam a’r Eglwys Wen wrth Redbroock Maelor, 2 filltir i’r gorllewin o’r Eglwys Wen, wrth ymyl y gyffordd â’r A495 Yr Eglwys Wen/Ellesmere/Croesoswallt.
Ceir gwasanaeth bysiau anfynych iawn rhwng Wrecsam a’r Eglwys Wen - rhif 146. Ceir gorsaf drenau yn yr Eglwys Wen (2 filltir).
Dim ond i lawr gwaelod y prif dŷ y ceir mynediad i’r anabl. Grisiau i’r llawr cyntaf a’r ail lawr. Mannau parcio i’r anabl a chyfleusterau toiled.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Mer 25 Medi 2024 |
10:30 - 16:30
|