Skip to main content

Yr ystafell hon, sy’n cynnwys un o dyrau muriau’r dref ganoloesol, yw lle mae’r cyngor tref bellach yn cyfarfod. Mae’n llawn o bethau cofiadwy am y cyngor tref.

Ar gyfer gŵyl Drysau Agored, bydd parlwr y maer ar agor i’r cyhoedd, gydag unigolion gwybodus wrth law i gynnig gwybodaeth.

Cyfeiriad – Parlwr y Maer, Pafiliwn De Valence, Upper Frog St., Dinbych-y-pysgod, SA70 7JD.

Lleoliad – Mae'r safle yng nghanol Dinbych-y-pysgod ac mae'n hygyrch ar droed o unrhyw fan trafnidiaeth gyhoeddus neu faes parcio.

Ceir pum cam i lawr i Barlwr y Maer.

Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 29 Medi 2024
11:00 - 13:00