Drysau Agored - Tŷ a Gardd Plas Newydd
Mae cartref teuluol Ardalydd Môn yn eistedd yn urddasol ar lannau’r Fenai. Dyma le â chanddo olygfeydd godidog o Eryri.
Mae’r gerddi o amgylch y plas yn werth eu crwydro ac maen nhw’n cynnwys gardd goed Awstralasaidd, gardd teras Eidalaidd, a llwybrau coetir helaeth.
Mae yna ddigon yma i’r rhai bach sy’n hoffi crwydro, gan gynnwys tŷ coeden wedi’i adeiladu â llaw, cwrs golff Frisbee™ naw twll, a maes chwarae antur. Efallai y dewch chi hyd yn oed ar draws un o’r gwiwerod coch sy’n byw yma!
Mae’r tŷ yn gartref i amgueddfa filwrol a ysbrydolwyd gan Waterlŵ, gweithiau celf, arddangosfeydd rheolaidd a phaentiad tirlun ffantasi enwog Rex Whistler – sy’n 58 troedfedd! Hefyd y penwythnos hwn bydd
lansiad arddangosfa gelf newydd.
Cyfeiriad – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Plas Newydd, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 6DQ.
Cyfarwyddiadau. Ar y ffordd - mae arwyddion o gyffordd 7 a 8a ar y A55, neu A4080 Ffordd Brynsiencyn. Trowch yr A5 i ffwrdd ar ben gorllewinol pont Britannia.
Parcio - am ddim, 60 llath.
Ar y trên - Llanfairpwll 1¾ milltir.
Ar y bws - mae bws llwybr 42 o Fangor i Langefni (pasio gorsaf Bangor a ger gorsaf Llanfairpwll) yn stopio ar ffordd Brynsiencyn, ger y maes parcio.
Ar gefn beic - NCN8, ¼ milltir.
Bydd Plas Newydd ar agor am ddim ar benwythnos Sadwrn 13 a Sul 14 Medi 2025 09.30-17.00 bob dydd. Mae oriau agor yr ardaloedd unigol wedi eu rhestru isod.
Yr ardd 09:30-17:00
Y tŷ 10:00-16:00
Y siop lyfrau ail-law 10:00-16:00
Y siop 09:30-17:00
Caffi’r Hen Laethdy 09:30-17:00
Ciosg yr ystafell haul 11:00-16:00
Mae'r mynediad olaf i'r Tŷ am 3:30pm. Gall amseroedd agor ciosg yr ystafell haul amrywio.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Medi 2025 |
09:30 - 17:00
|
Sul 14 Medi 2025 |
09:30 - 17:00
|