Skip to main content

Mae cartref teuluol Ardalydd Môn yn eistedd yn urddasol ar lannau’r Fenai. Dyma le â chanddo olygfeydd godidog o Eryri.

Mae’r gerddi o amgylch y plas yn werth eu crwydro ac maen nhw’n cynnwys gardd goed Awstralasaidd, gardd teras Eidalaidd, a llwybrau coetir helaeth.

Mae yna ddigon yma i’r rhai bach sy’n hoffi crwydro, gan gynnwys tŷ coeden wedi’i adeiladu â llaw, cwrs golff Frisbee™ naw twll, a maes chwarae antur. Efallai y dewch chi hyd yn oed ar draws un o’r gwiwerod coch sy’n byw yma!

Mae’r tŷ yn gartref i amgueddfa filwrol a ysbrydolwyd gan Waterlŵ, gweithiau celf, arddangosfeydd rheolaidd a phaentiad tirlun ffantasi enwog Rex Whistler – sy’n 58 troedfedd!

Cyfeiriad – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Plas Newydd, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 6DQ. 

Cyfarwyddiadau. Ar y ffordd - mae arwyddion o gyffordd 7 a 8a ar y A55, neu A4080 Ffordd Brynsiencyn. Trowch yr A5 i ffwrdd ar ben gorllewinol pont Britannia.
Parcio - am ddim, 60 llath.
Ar y trên -  Llanfairpwll 1¾ milltir.
Ar y bws - mae bws llwybr 42 o Fangor i Langefni (pasio gorsaf Bangor a ger gorsaf Llanfairpwll) yn stopio ar ffordd Brynsiencyn, ger y maes parcio.
Ar gefn beic - NCN8, ¼ milltir.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:30 - 17:00
Sul 15 Medi 2024
10:30 - 17:00