Skip to main content

Dewch am dro i Blas Uchaf gyda’r Landmark Trust, a fydd ar agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Medi, 10am–4pm. Bydd yr adeilad ar agor fel rhan o ŵyl Drysau Agored Cadw. Dewch i weld yr adeilad ac i ddysgu mwy am ei hanes a'r gwaith a wnaed i’w adfer.

Bydd yr eiddo hwn ar agor ar yr un penwythnos â dyddiau agored Dolbelydr – tua 40 munud i ffwrdd mewn car.

Adeiladwyd y neuadd sylweddol hon tua 1400 ar fryn isel ger Afon Dyfrdwy, mewn ardal sy'n llawn golygfeydd godidog, bywyd gwyllt, a hanes. Prin iawn yw’r tai sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn, ac mae safon y gwaith a wnaed ym Mhlas Uchaf yn rhagorol.

Saif Plas Uchaf ar ochr bryn isel yn Nyffryn Dyfrdwy, ger Corwen. Mae o fewn cyrraedd hawdd i Eryri. Gallwch yrru i Lyn Tegid mewn 20 munud.

Byddai’n well gennym i chi archebu lle ond mae croeso i bobl alw heibio hefyd  - Plas Uchaf Open Days (landmarktrust.org.uk)

Cyfeiriad - Plas Uchaf, Llangar, Corwen, LL21 0EW.
What3Words: undertook.adjust.asking

Dilynwch yr A5 tua’r gorllewin, trwy Langollen a Chorwen. Ddwy filltir ar ôl gadael Corwen, byddwch yn gweld siop fferm ar y chwith, trowch i'r chwith ar ôl mynd heibio Siop Fferm Rhug, gan ddilyn yr arwydd tua Chynwyd i fyny'r allt. Mae Plas Uchaf ar y dde ar ôl tua hanner milltir, pan fo’r lôn yn troi i’r chwith ar ben y bryn. Mae'r fynedfa ar ochr bellaf yr adeilad.
Mae trenau o Wolverhampton yn mynd i  orsaf reilffordd Rhiwabon (16 milltir). Mae bysiau o Wrecsam a Llangollen yn mynd i Gorwen. Cysylltwch â Gwybodaeth Twristiaeth gael manylion am y gwasanaeth.
Dilynwch yr arwyddion i gael lle i barcio gerllaw.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00