Skip to main content

Mae hanes hir i Sant Cystennin ac awgrymir bod eglwys ar y safle hwn o 338 OC; fe'i cysegrwyd i un o'r Ymerawdwyr Rhufeinig, Cystennin. Er hynny, gwyddom fod capel ar y safle o tua 1180 pan ddaeth y Mynachod i Gonwy; adeiladwyd yr eglwys ddilys gyntaf yng nghyfnod mawr adeiladu eglwysi yng ngogledd Cymru – tua 1480. Cafodd pump o'r paneli ffenestri lliw sydd wedi eu dyddio o'r cyfnod hwn eu hadnewyddu ac maent i'w gweld yn yr eglwys. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o 1843 pan gafodd ei hailadeiladu ar yr un safle. Cafodd yr Eglwys ei moderneiddio gyda mynediad i'r anabl a thoiled. Lleolir yr eglwys mewn amgylchedd gwledig yn Nyffryn Mochdre.

Ar gyfer y digwyddiad Drysau Agored, bydd y cofrestrau ar gael i'w gweld yn ogystal â dwy Arddangosfa Ffotograffau o hen Lanwydden a Mochdre yn y 1900au cynnar i ddangos datblygiad y ddwy drefgordd.

Eglwys Sant Cystennin Llangystennin LL31 9JF

Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus i'r eglwys; y cludiant cyhoeddus agosaf yw'r bws yng nghanol Mochdre, tua un cilomedr i ffwrdd. Mae'r eglwys ar lwybr cerdded adnabyddus.

Cyfarwyddiadau - ym Mochdre, dilynwch Station Road (Llangystennin sydd ar yr arwydd), trowch i’r dde wrth y gyffordd ac ar ôl rhyw hanner milltir, trowch i’r dde.
Nid oes gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar gyfer y safle.  


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 13:00
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 13:00