Skip to main content

Capel Bedyddwyr Cymraeg yw’r Tabernacl. Mae'r eglwys wedi dathlu dros 200 mlynedd o dystiolaeth Cristnogol yng nghanol y ddinas. Mae'n adeilad Gradd 2* wedi ei chofrestri ac yn adeilad Fictoriaidd. Ffenestri lliw hardd – yn arbennig y rhai blaen a roddwyd er cof am Parch Charles Davies (1888 – 1927) sy'n dangos Bedydd Crist a’r Swper Olaf. Mae'r Organ dros 100 mlwydd oed ac wedi’i hadnewyddu.

Bydd y capel ar agor o 10.30 - 12.00. Gallwch gerdded o gwmpas, eistedd a myfyrio. Bydd datganiad ar yr organ o amrywiol gerddoriaeth. Bydd aelodau ar gael i’ch croesawu, ateb eich cwestiynau a’ch tywys.

Cyfeiriad : Tabernacl, Eglwys y Bedyddwyr, Yr Ais, Caerdydd, CF10 1AJ.

Mae'r Tabernacl yng nghanol ardal sydd wedi ei bedestreiddio ar yr Ais. Pe dymunai aelod o’r cyhoedd mewn cadair olwyn ymweld mae ramp a adeiladwyd yn 2021 wedi ei leoli ar ochr chwith yr adeilad.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:30 - 12:00
Sad 14 Medi 2024
10:30 - 12:00