Drysau Agored - Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
Neuadd Goffa Dr Evan Pierce, sef Theatr Twm o'r Nant erbyn hyn. Adeiladodd Dr Evan Pierce, meddyg nodedig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, o’i boced ei hun ym 1890 er cof am ei fam. Ar y pryd roedd yn cynnwys amgueddfa o'i gyflawniadau oes. Fe'i hadeiladwyd mewn Arddull Glasurol Fictoraidd hwyr gyda ffasâd cymesurol a mynedfa ganolog yn eistedd o dan bortico, a gynhelir gan golofnau rhychiog a phediment uwchben yn cario arfbais Frenhinol y Frenhines Victoria. Bydd yn gweithredu fel canolfan wybodaeth ar waelod y dref gyda thoiledau ac fel man i gael lluniaeth.
Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.
Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D
a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Cyfeiriad - Theatr Twm o’r Nant, Ffordd yr Orsaf, Dinbych, LL16 3DA.
Safle bws agosaf: 100m i ffwrdd yn Vale Street.
Gwasanaethau bws 51, 52 i Ddinbych.