Drysau Agored - Tŵr Cloc Rhuthun
Mae Tŵr y Cloc yn Sgwâr Sant Pedr hefyd yn cael ei alw’n Gofeb Peers. Cafodd ei godi yn 1883 er cof am Joseff Peers, a fu’n Glerc Heddwch Sir Ddinbych am 50 mlynedd. Fe'i ddyluniwyd gan y pensaer enwog o Gaer, John Douglas, mewn arddull Jacobeaidd nodweddiadol gan ddefnyddio bandiau o dywodfaen a chalchfaen. Mae hefyd yn ymgorffori nodweddion pensaernïol diddorol eraill, gan gynnwys cerfluniau o Dewi Sant a San Siôr, bwystfilod bygythiol, a chafn dŵr i’r anifeiliaid. Yn ddiweddar, mae’r tŵr wedi’i adnewyddu i safon uchel iawn gan R Moore Building Conservation Ltd.
Yn ogystal â gweld Tŵr y Cloc o'r tu allan, bydd cyfle i gael cipolwg i tu mewn i ddrws gogleddol y tŵr ddydd Sadwrn rhwng 11.00am–1.00pm a 2.00pm–4.00pm. Bydd sgyrsiau byr am y cloc am 11am a 3.00pm. Roedd angen gallu mynd i mewn i’r tŵr er mwyn weindio’r mecanwaith y cloc Joyce gwreiddiol. Mae’r mecanwaith hwn bellach i’w weld yn yr Hen Lys, ac mae llyfrau am yr hanes a’r gwaith o adnewyddu’r cloc ar werth yno hefyd.
Sgwâr Sant Pedr, LL15 1AA NGR SJ 123583
Cyfarwyddiadau: Ffordd A494 o’r Wyddgrug i’r Bala a'r A525 o Rhyl i Wrecsam i Ruthun. Gallwch barcio yn un o amrywiol feysydd parcio’r dre. Y maes parcio agosaf at Dŵr y Cloc yn Sgwâr Sant Pedr yw’r un ar Stryd y Farchnad. Mae bysiau, gan gynnwys y T8, X51 a 51, yn stopio ar Stryd y Farchnad a Heol Wynnstay, Rhuthun. https://www.denbighshire.gov.uk/en/documents/leisureandtourism/trailboo…. https://www.cyngortrefrhuthun.gov.uk/en/inandaroundruthin/mapof town
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
11:00 - 16:00
|