Drysau Agored - Tŵr y Baddondy, Caernarfon
Dewch i ymweld â Thŵr y Baddondy (Bath Tower) ar ddydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Medi. Mae'r adeilad hwn yn cael ei agor fel rhan o ŵyl Drysau Agored Cadw.
Tŵr y Baddondy, ym muriau canoloesol Caernarfon, oedd un o’r adeiladau cyntaf i’r Landmark Trust ei adfer, ac mae un ochr yn edrych allan dros y Fenai a’r llall yn edrych tua’r Castell. Crwydrwch dref farchnad brysur Caernarfon ar daith fydd yn mynd â chi heibio'r castell ac olion y gaer Rufeinig, Segontium.
Er nad yw archebu lle yn hanfodol, gofynnwn i chi gofrestru i ddod i’r digwyddiad ar Eventbrite, er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad. Bath Tower Open Days
(Mae'n well archebu ymlaen llaw, ond mae croeso i bobl alw heibio ar y diwrnod).
Cyfeiriad - Tŵr y Baddondy/Bath Tower, Stryd yr Eglwys, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SW.
Sylwch nad oes lle i barcio ar y safle. Gallwch barcio ar y strydoedd cyfagos neu ym maes parcio’r harbwr.
Ewch i mewn trwy’r drws ar y llawr gwaelod ar bromenâd yr harbwr. Mae grisiau cul serth a grisiau troellog i gael mynediad i bob un o bedwar llawr yr adeilad, ac mae’n bosibl na fyddant yn addas ar gyfer ymwelwyr sydd â’u gallu i symud wedi’i gyfyngu.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 21 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|