Skip to main content

Tŷ Sant Ioan yw’r adeilad hynaf y gellir byw ynddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae iddo drawstiau sy’n dyddio’n ôl i 1511/1512. O ran arddull a chynllun, mae'n perthyn i ddosbarth o adeiladau a elwir yn dai cyntedd aelwyd gan eu bod, o ran cynllun, yn rhannu nodwedd gyffredin, sef lle tân y brif neuadd a'r simnai yn cefnu ar gyntedd canolog sy'n rhannu'r tŷ yn ddwy uned.

Mae’r adeiladwaith yn dyddio o'r 15fed ganrif, o bosib, ac yn sicr o’r 16eg ganrif: gall presenoldeb grisiau wedi'u hamgáu oddi mewn i un o'r waliau ategu’r cyfnod gwreiddiol canoloesol hwyr iawn, yn hytrach na dyddiad adeiladu o’r cyfnod Tuduraidd.

Mae'r adeilad o ansawdd anarferol. Nid yw wedi gweld fawr o newid, ac mae wedi cadw rhywfaint o uniondeb strwythurol nad yw bob amser i’w weld mewn anheddau domestig o’r cyfnod cynnar wedi’r Oesoedd Canol yng Nghymru.

Mae’r tŷ wedi’i leoli yn Ardal Gadwraeth Allt Castellnewydd, sy’n cynnwys adfail canoloesol y Castell Newydd, Heneb Gofrestredig, a nifer o adeiladau sy’n dyddio o’r 17eg ganrif ac yn hwyrach, y mae rhai ohonynt hefyd wedi’u rhestru. Ond nid oes yr un ohonynt mor hen â Thŷ Sant Ioan.

Ar gyfer Drysau Agored -
Dydd Sul 8 Medi – bydd Debra John yn chwarae rhan Arglwyddes Fictoraidd yn ystod y dydd. 
Dydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi - bydd saethwyr canoloesol yn arddangos arfau'r oes.

Cyfeiriad – Tŷ Sant Ioan, Rhiw Newcastle, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4PG.

Lleoliad – ar y dde wrth gerdded i fyny Rhiw Newcastle. Sylwch – nid oes lle i barcio ar Riw Newcastle.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 28 Medi 2024
11:00 - 15:00
Sul 29 Medi 2024
11:00 - 15:00