Drysau Agored - Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd
Ar un adeg roedd masnachwr lleol yn byw yn y tŷ tref cul hwn yn Ninbych-y-pysgod. Mae'n nodweddiadol o'r math o dai masnachwyr llewyrchus a godwyd pan oedd Dinbych-y-pysgod yn borthladd ffyniannus yn niwedd yr Oesoedd Canol.
Dewch i mewn i weld sut y gallai masnachwr cyfoethog fod wedi byw.
Ar agor 11am - 4pm. Mynediad olaf 3.30pm.
Dim angen archebu.
Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Quay Hill, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7BX.
Cyfarwyddiadau. Ar droed - dilynwch yr arwyddbost o Sgwâr Tudor ger Tafarn y Lifeboat, neu o Stryd y Bont neu Stryd Crackwell.
Ar y trên - Dinbych-y-pysgod ½ milltir.
Ar fws - gwasanaethau lleol o'r ardaloedd cyfagos yn gollwng teithwyr wrth furiau'r dref, ¼ milltir. Amserlen fysiau ar gael ar wefan Cyngor Sir Benfro.
Mewn car - defnyddiwch y meysydd parcio y tu allan i furiau'r dref. Dim parcio gerllaw.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Medi 2025 |
11:00 - 16:00
|