Drysau Agored - Y Carriageworks, Dinbych
Adeiladwyd hen ffatri tri llawr cerbydau’r Brodyr Williams oedd yn cael eu tynnu gan geffylau, ym 1868. Mae’n enghraifft brin o dreftadaeth ddiwydiannol Dinbych ac mae’n bwysig fel rhan o ardal gadwraeth y dref. Roedd pob llawr yn arbenigo mewn gwneud gwahanol gydrannau. Roedd y gwaith cynhyrchu fertigol yn cael ei drosglwyddo trwy'r lloriau trwy drap gan ddefnyddio cadwyni. Er i'r busnes arallgyfeirio i waith coetsis ar gyfer siasi ni lwyddodd i ffynnu ym myd y car modur. Llwyddodd y trawsnewidiad dengar i ganolfan celf a chrefft i gadw llawer o'r nodweddion diwydiannol a’r arteffactau. Ar hyn o bryd mae'r eiddo yn stiwdio ac oriel drawsddisgyblaethol sy'n cael ei rhedeg gan Studio MADE.
Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2025 yn lansio ddydd Gwener 19 Medi 2025 gyda darlith gyda'r nos yn archwilio gweithredoedd eiddo yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, dydd Sadwrn a dydd Sul 20 a 21 Medi 2025 rhwng 10am a 5pm bydd dros dri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd, ynghyd â sgyrsiau a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd, sgyrsiau a theithiau tywys sydd â nifer cyfyngedig o leoedd ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at y penwythnos ei hun. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://darganfoddinbych.cymru https://twitter.com/OpenDoors_D https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.
Cyfeiriad – Y Carriageworks, 6 Love Lane, Denbigh, LL16 3LU.
///what 3words: (CYM) ///hufennog.sylwaf.hoffus (ENG) ///accordion.toys.brain
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:00 - 15:00
|