Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Dyma enghraifft wych o wyrcws a adeiladwyd o dan Ddeddf y Tlodion Newydd 1834, a dyma’r unig un yng Nghymru sydd wedi’i gadw ac yn agored i’r cyhoedd. Mae wedi’i leoli yng nghefn gwlad hardd Cwm Cain, wrth ochr yr A490 tuag at Lyn Efyrnwy.

Fe’i gelwir yn lleol yn Y Dolydd, ac mae’n adeilad rhestredig Gradd II* wedi’i wneud o garreg. Mae ar hyn o bryd yn cael ei adfer gan ymddiriedolaeth leol. Mae pedair adain yn ymestyn o’r Tŷ Meistr canolog. Mae Canolfan Hanes y Wyrcws yn adrodd ei stori gyda ffilm, Ghosts of the Workhouse, sy’n cynnwys y dynion, y menywod a’r plant a fu’n byw ac yn gweithio yma.

Ar agor bob dydd gyda llwybr ymwelwyr.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd digwyddiad arbennig gyda Ffair Fwyd yn cynnwys y bwyd a’r diodydd gorau gan gynhyrchwyr lleol yng Nghymru a’r gororau. Bydd ganddyn nhw ystod eang o gynnyrch ar gael i’w samplu. Hefyd – cerddoriaeth fyw, arddangosfa gelf, stiwdios agored, cyflwyniad sleidiau ar adferiad yr adeilad, teithiau tywys, gwisgoedd wyrcws i blant.

Mynediad a pharcio am ddim; derbynnir yn ddiolchgar roddion tuag at yr adferiad.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Cyfeiriad – Wyrcws Llanfyllin, Y Dolydd, Llanfyllin, Powys, SY22 5LD.

Lleoliad – wrth ochr yr A490, ar yr ochr dde wrth fynd at Lanfyllin o ffin Lloegr. Mae’r orsaf agosaf yn Y Trallwng: nid oes gwasanaeth bysiau ar ddydd Sul. Mae llawr gwaelod yr adeilad yn hygyrch.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 07 Medi 2025
10:00 - 17:00