Drysau Agored - Y Gât, Sanclêr
Wedi'i leoli yng nghanol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, mae'r adeilad carreg trillawr urddasol hwn, a oedd unwaith yn felin, ac yna'n siop fferm, yn dal i fod yn ganolbwynt i Sanclêr. Yn fwy diweddar, roedd yr adeilad wedi'i drawsnewid a'i addasu’n gartref i Ganolfan Crefftau Gorllewin Cymru, gydag oriel gelf a chanolfan arddangos. Heddiw, ar ôl dod dan reolaeth Cyngor Tref Sanclêr, mae'r Gât (The Gate) bellach yn cael ei sefydlu fel Hwb Cymunedol sy'n gartref i swyddfeydd Cyngor y Dref, caffi, llyfrgell y dref, unedau creadigol ac ystafelloedd cyfarfod amrywiol a gofod cymunedol.
Ymunwch â ni yn y Gât am sgwrs ddiddorol gan hanesydd lleol am drawsnewidiad yr adeilad o felin i ganolfan gymunedol, a datblygiad Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr. Yna gallwch fwynhau taith dywys ar hyd y llwybr, sy'n cynnwys 12 panel dehongli gyda chodau QR a thaith sain i’w dilyn yr un pryd. Un uchafbwynt fydd ymweliad ag Eglwys Santes Fair Magdalen, gyda chynrychiolydd yn rhannu ei hanes. Bydd gwaith celf gan blant ysgolion cynradd lleol yn cael ei arddangos, a bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei weini. Mae clustffonau ar gyfer y daith sain ar gael yn y Gât.
Nid oes angen archebu gan nad oes cyfyngiad ar nifer y lleoedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad drwy e-bostio gate@stclearstowncouncil
Bydd y sgwrs gan hanesydd lleol, taith o amgylch yr adeilad, arddangosfa o waith celf disgyblion a'r lluniaeth ysgafn i gyd yn Y Gât, Ffordd Pentre, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin SA33 4AA.
Bydd taith gerdded y Llwybr Treftadaeth yn cael ei chynnal yn nhref Sanclêr, gan ddechrau a gorffen yn SA33 4AA
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Medi 2025 |
10:00 - 13:00
|