Drysau Agored - Yr Hen Llys, Rhuthun
Adeiladwyd yr Hen Lys yn Sgwâr San Pedr, Rhuthun fel llys pwrpasol yn y 1400au cynnar. Mae dendrocronoleg wedi dyddio'r adeilad i 1421. Fe'i disodlwyd fel llys ar ddiwedd y 1770au pan godwyd adeilad y Llyfrgell (Llysdy) yn Stryd y Cofnodion. Am y tua 150 mlynedd nesaf fe’i defnyddiwyd fel safle masnachol ar gyfer nifer o fusnesau, gan gynnwys busnes haearnwerthu Aldrich’s Ironmongers. Yn y 1920au cymerodd Banc y National Provincial yr adeilad cyfan drosodd gan wneud gwaith adfer llwyr. Caeodd y banc, sef y NatWest erbyn hyn, yn 2017 ac ers hynny mae wedi’i brynu gan Gyngor Tref Rhuthun ac fe’i defnyddir bellach fel canolbwynt cymunedol, swyddfeydd y Cyngor a lleoliad ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau.
Bydd paneli gwybodaeth yn sôn am yr adeilad ac am safleoedd hanesyddol eraill Rhuthun i'w gweld yn ystod y penwythnos Drysau Agored. Hefyd, bydd cyfle prin i'r cyhoedd weld rhai o’r gwrthrychau hanesyddol diddorol sydd ym meddiant y Cyngor. Bydd y rhain yn cynnwys casged arian yn coffáu gwobr Ryddfreiniwr Rhuthun, clychau llaw, a hen baentiadau o’r ardal. Bydd gwirfoddolwyr yno i ateb cwestiynau.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.
Cyfeiriad - Yr Hen Lys, Sgwâr San Pedr, Rhuthun, LL15 1AA.
Mae'r Hen Lys yn ganolog i Ruthun, rhwng yr Eglwys a'r Castell Canoloesol. Mae tref Rhuthun yn cael ei gwasanaethu’n dda gan fysiau o Gaer, Corwen, Dinbych, y Rhyl a thu hwnt. Mae Stryd y Castell yn daith gerdded fer o’r arosfannau bysiau yn Ffordd Wynnstay a Stryd y Farchnad.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 14 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|