Skip to main content

Llys Ynadon oedd Neuadd y Dref yn flaenorol ac fe’i hadeiladwyd gan Walter Wiles, Pensaer Sirol Sir Ddinbych ym 1905-07; mae’n adeilad rhestredig Gradd II. Caeodd y Llysoedd yn y 1990au a daeth yn Neuadd y Dref ac mae’n dal i arddangos nifer o'i nodweddion gwreiddiol.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd artistiaid gweledol yn defnyddio’r arteffactau (a ddangosir yn y Siambr) fel ysbrydoliaeth ar gyfer gweithdy. Cynhelir gweithgaredd rhyngweithiol gyda digwyddiadau theatraidd/adrodd straeon. Bydd y grŵp Treftadaeth leol yn cynnal taith gerdded treftadaeth gyda Neuadd y Dref fel man aros. Bydd hen ffotograffau i’w gweld ar ffurf sioe sleidiau. Bydd y Maer a'r Cynghorwyr yn bresennol i groesawu ymwelwyr ac i arddangos Gwisgoedd/Regalia'r Cyngor.

Nid oes angen bwcio.

Cyfeiriad – Neuadd y Dref, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn.

Mae maes parcio talu/arddangos cyhoeddus y tu ôl i'r adeilad ar ffordd Douglas – nid oes lle parcio cyhoeddus yn Neuadd y Dref. Ceir mynediad anabl i'r adeilad ar yr ochr.

Trafnidiaeth Gyhoeddus: Mae'r orsaf drenau 5 munud i ffwrdd ar droed. Mae'r Safle Bws agosaf yn Eglwys St Paul, Ffordd Abergele. Lleolir mynedfa ochr Eglwys St Paul gyferbyn â Neuadd y Dref.

Gyrru tua'r Gorllewin: Gadewch yr A55 wrth yr arwydd Bae Colwyn (Cyffordd 21), trowch i'r chwith ar ben y ffordd, yna ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan fach, yna trowch i'r dde i Ffordd Abergele. Trowch i'r chwith i Ffordd Douglas (gyferbyn â Theatr Colwyn) i gyrraedd y maes parcio. Mae ffordd (Albert Place) yn arwain at Ffordd Rhiw ac mae Neuadd y Dref i’w gweld ar y chwith.

Gyrru tua'r Dwyrain: Gadewch yr A55 wrth yr arwydd Bae Colwyn (Cyffordd 21), trowch i'r dde ac yna ewch yn syth drwy'r goleuadau cyntaf. Wedyn ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan fach, yna trowch i'r dde i Ffordd Abergele. Trowch i'r chwith i Ffordd Douglas (gyferbyn â Theatr Colwyn) i gyrraedd y maes parcio. Mae ffordd (Albert Place) yn arwain at Ffordd Rhiw ac mae Neuadd y Dref ar y chwith.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00