Skip to main content

Mae'r Hen Reithordy yn adeilad rhestredig gradd II o'r 18fed ganrif sydd wedi'i leoli ar ei dir ei hun. Mae'n gartref i Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n ceisio gwarchod treftadaeth archifol unigryw'r sir trwy gasglu, rhestru a storio cofnodion hanesyddol o bob math a'u gwneud ar gael i'r cyhoedd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa am yr Hen Reithordy, ei hanes a beth sydd ar y gweill a theithiau o amgylch yr Hen Reithordy (y tu ôl i'r llenni, nad yw'n agored i'r cyhoedd fel arfer). Bydd adeiladau eraill ym Mhenarlâg hefyd ar agor ar yr un dyddiad.

10.00am     Ar agor - i edrych ar arddangosfeydd/fideo
10.30am     Taith gyntaf i'r ystafell ddiogel (45 munud) - uchafswm o 15 o bobl
11.30am      Ail daith i'r ystafell ddiogel (45 munud) - uchafswm o 15 o bobl
12.30pm     Trydedd taith i'r ystafell ddiogel (45 munud) - uchafswm o 15 o bobl

Mae angen archebu.  Archebwch ar gyfer teithiau’r ystafell ddiogel - uchafswm o 15 o bobl fesul taith.
Rhif Ffôn archebu 01244 532364; e-bost:  archives@newa.wales

Cyfeiriad - Yr Hen Reithordy,  Lôn y Rheithordy, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3NR.

Cyfarwyddiadau - mae Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru, Penarlâg wedi'i leoli yng nghanol pentref Penarlâg yn yr Hen Reithordy, Lôn y Rheithordy, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3NR.
Mae digonedd o lefydd parcio am ddim o flaen yr adeilad (dilynwch yr arwyddion ar gyfer y maes parcio, gan droi i'r dde i lawr y llethr o flaen yr Hen Reithordy). 
Ar y trên - mae'r gorsafoedd trên agosaf ym Mhenarlâg a Chaer. Mae gan yr orsaf ym mhentref Penarlâg gysylltiadau uniongyrchol â Bidston (Cilgwri) ar gyfer newidiadau i Lerpwl, Shotton ar gyfer newidiadau i Gaer a Wrecsam Cyffredinol.
I gerdded i gangen Penarlâg o'r orsaf drenau mae angen i chi ddod allan o faes parcio'r orsaf a throi i'r dde pan fyddwch yn cyrraedd y brif ffordd. Ar ôl 5 munud o gerdded byddwch yn cyrraedd canol y pentref. Wrth y groesfan i gerddwyr, croeswch y ffordd a pharhewch i'r dde tan i chi gyrraedd y swyddfa bost. Trowch i'r chwith i lawr Lôn y Rheithordy (wrth ochr y swyddfa bost) a thrwy'r gatiau agored ar y diwedd. Mae'r Hen Reithordy o'ch blaen ac mae'r archifau ym mhen pellaf yr adeilad. 
O orsaf drenau Caer, mae bysiau rheolaidd i Benarlâg a bydd y daith yn cymryd tua 40 munud i 1 awr. Dewch oddi ar y bws gyferbyn â thafarn  y Glynne Arms, a chroeswch y ffordd i gerdded i lawr Lôn y Rheithordy (fel uchod).
Ar fws - enw'r safle bws agosaf yw'r Glynne Arms, Penarlâg. Ar ôl dod oddi ar y bws, trowch i lawr Lôn y Rheithordy (rhwng y Glynne Arms a’r Swyddfa Bost) a thrwy'r gatiau agored ar y diwedd. Mae'r Hen Reithordy o'ch blaen ac mae'r archifau ym mhen pellaf yr adeilad.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 14:00