Skip to main content

Metel poeth, aur du

Nid mater o hen gerrig ac esgyrn yn unig mo safleoedd hanesyddol Cymru.  Roedd y genedl yn geffyl blaen yn Chwyldro Diwydiannol Prydain, grym tanbaid a newidiodd yr ynysoedd hyn – a’r byd – am byth. 

Yng Nghymru, roedd yn chwyldro llwyr, yn cwmpasu cynhyrchiant metel a mwyngloddio. Tywalltodd ‘aur du’ allan yn ddi-ben-draw o fwyngloddiau yng Nghymoedd Rhondda a mannau eraill yn y De. Magodd Abertawe, un o ganolfannau diwydiannol cynharaf Cymru, yr enw ‘Copperopolis’ yn sgil cryfder ei waith mwyndoddi copr helaeth.   

Roedd Merthyr Tudful yn adnabyddus ym mhedwar ban byd yn ‘brifddinas haearn y byd’, yn allforio cledrau haearn i reilffyrdd yn Rwsia a de America. Torrodd Caerdydd bob record yn borthladd prysuraf y byd a oedd yn allforio glo. A heb anghofio’r Canolbarth a’r Gogledd, a chwaraeodd rannau arweiniol yng nghynnydd parhaus diwydiant gyda’u mwyngloddiau plwm a llechi. 

Y Brydferth a’r Bwystfil

Esgorodd yr arloesi diwydiannol ar lawer o wahanol bethau – camlesi, rheilffyrdd, ffyrdd, twf poblogaeth enfawr, trefi newydd yn gyforiog o dai teras wedi’u pacio’n glos ac, wrth reswm, dinistrio tirweddau a oedd yn adnabyddus o’r blaen am eu cryn harddwch naturiol.  

Mae Abaty Nedd yn taflu goleuni ar effeithiau diwydiannu. Yn yr 16eg ganrif, dywedwyd mai ef oedd ‘yr abaty tecaf yng Nghymru’. Erbyn y 19eg ganrif, roedd yr abaty bellach yn destun esgeulustod mawr drwy len drwchus o fwg, megis ysgerbwd llong yn gaeth ar draeth ac yn raddol bydru.

Yn ymgorfforiad, efallai, o’r hyn a oedd yn digwydd ledled de Cymru, roedd gan Abaty Nedd druan rôl newydd mewn bywyd fel gwaith mwyndoddi copr, yn gybolfa o ffwrneisi, gweithdai, anheddau gweithwyr a gwastraff diwydiannol. Yn ffodus, mae gwaith glanhau’r 20fed ganrif wedi adfer llawer o gyfanrwydd blaenorol yr abaty, a hyn yn berthnasol i dde Cymru yn gyffredinol, lle caiff dyffrynnoedd eu hail-wyrddu law yn llaw â buddsoddiad yn nhechnolegau newydd yr 21ain ganrif.   

Y darlun cyfan   

Mae Blaenafon, sydd bellach yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn adrodd hanes hynod o orffenedig Cymru ddiwydiannol. Mae’n gartref i waith haearn arloesol ond hefyd i bwll glo sy’n cynnig teithiau tanddaearol.    

Mae ei waith haearn o’r 18fed ganrif, ynghyd â ffwrneisi chwyth, tŵr dŵr cytbwys, lifft a bythynnod gweithwyr, ymhlith y gorau a ddiogelwyd yn Ewrop. Tan 1980, roedd Big Pit gerllaw yn bwll glo gweithiol. Mae’r cyfan yno o hyd, fel petai’r glowyr newydd orffen eu sifft am y dydd. Ewch ar daith i lawr i waelod y pwll sydd 300 troedfedd/90m islaw’r ddaear i weld sut beth oedd bywyd wrth y talcen glo.

Plwm a llechi   

Er mai yn y de oedd y rhan fwyaf o’r gweithgarwch diwydiannol, cafodd y perfeddwledydd eu rhan hefyd. Ger Machynlleth, mae Ffwrnais Dyfi wedi’i hadfer (dafliad carreg i ffwrdd o warchodfa natur sy’n rhyngwladol bwysig), sef ffwrnais olosg wedi’i phweru gan olwyn ddŵr o ganol y 18fed ganrif, a ddefnyddid i fwyndoddi mwyn haearn.   

Yng nghysgod argae anferth Clywedog ym Mynyddoedd Cambria, fe welwch safle diwydiannol annisgwyl arall: adfeilion Mwynglawdd Plwm Bryntail, un o lawer o fwyngloddiau felly wedi’u suddo ym mryniau’r Canolbarth yn ystod blynyddoedd ffyniant y 19eg ganrif.

Yn y gogledd, llechi o ansawdd oedd y cyfan. Ble bynnag yr ewch chi yn Eryri, dewch ar draws olion y diwydiant a arferai ‘roi to ar y byd’. Mewn mannau fel Blaenau Ffestiniog, y ‘brifddinas lechi’, a Llanberis mae’n amlwg iawn. Ewch dan y ddaear yng Ngheudyllau Llechi Blaenau, yna ewch i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis – fel Big Pit, safle diwydiannol blaenorol go iawn, yn ei lawn liwiau – i ddysgu rhagor. 

Myfi yw brenin y castell      

Cynhyrchodd yr oes ddiwydiannol gestyll hyd yn oed, er bod y rhain yn rhai ffug a godwyd gan ddiwydianwyr nouveauxriches a oedd yn benderfynol o ddangos eu cyfoeth a’u statws. Adeiladwyd Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful gan ‘y brenin haearn’ William Crawshay. Yng Nghaerdydd, bu Ardalydd Bute - pendefig ardal y dociau, a’r dyn cyfoethocaf honedig yn y byd - yn tywallt arian ar gastell coegwych yng nghanol y brifddinas ac encilfa wledig ramantus Castell Coch.

Ond efallai mai’r un a oedd yn fwyaf hoff o ddangos ei hun oedd y teicŵn llechi, GH Douglas-Pennant, a wariodd hanner miliwn o bunnoedd, swm anferthol ar y pryd, ar Gastell Penrhyn, Bangor, sef palas ffantasi neo-Normanaidd sy’n dipyn o ddatganiad i’r byd.