Skip to main content

Tanysgrifiwch i’n e-cylchlythyr a derbyniwch newyddion diweddaraf Cadw, digwyddiadau, cynigion a chystadlaethau yn syth i’ch mewnflwch.

Tanysgrifiwch nawr!

Mae'r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i bob categori o Gylchlythyr Cadw.

Cylchlythyr Cadw yw'r cylchlythyr sy'n darparu gwybodaeth newyddion a digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol. Y Derbynnydd yw cyfeiriad e-bost yr unigolyn sydd wedi cofrestru ar ein porth ar-lein i dderbyn Cylchlythyr Cadw.

1. Mae'r data personol y mae Cadw yn ei gasglu yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi ni i weinyddu tanysgrifiad cylchlythyr y Derbynnydd. Bydd Cadw yn rhannu data'r Derbynnydd gydag Golley Slater a GovDelivery, asiantaethau trydydd parti, i weinyddu eich tanysgrifiad newyddlen. Ni chaiff data'r Derbynnydd ei rannu ag unrhyw drydydd parti eraill y tu allan i'ch tanysgrifiad newyddlen.

2. Bydd y Derbynnydd yn derbyn cylchlythyr Cadw i'r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi'i ddarparu i ni yn rheolaidd. Bydd y math o gylchlythyr y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar y categorïau o wybodaeth a ddewiswyd gennych i gofrestru o dan ein system cylchlythyr.

3. Ar gyfer polisi preifatrwydd Cadw yn unol â GDPR ewch i: Polisi Preifatrwydd Cadw

4. Nid yw tanysgrifio i Gylchlythyr Cadw yn hawlio'r Derbyniwr i aelodaeth lawn Cadw a'r buddion yn hynny.

5. Mae Cadw yn cadw'r hawl i newid y telerau a'r amodau hyn neu'r manteision sydd ar gael i Dderbynwyr Cylchlythyr Cadw ar unrhyw adeg trwy bostio unrhyw newidiadau ar wefan Cadw. Bydd unrhyw newidiadau yn digwydd ar y dyddiad y cânt eu postio ar y wefan. Fe'ch cynghorir i wirio'r telerau a'r amodau hyn yn rheolaidd ar gyfer y diweddariadau.

6. Wrth danysgrifio i Gylchlythyr Cadw, dylech dderbyn unrhyw e-bost (e-byst) cadarnhau o fewn 10 munud. Os na wnewch chi, gwiriwch unrhyw ffolderi sbam neu sothach. Os na fydd y cadarnhad yn cyrraedd o fewn 24 awr, cysylltwch â thîm marchnata Cadw ar cadwmarketing@llyw.cymru

7. Os yw Derbynnydd yn dymuno gwneud newidiadau i'r categorïau o wybodaeth y maent yn eu derbyn yng Nghylchlythyr Cadw, gall y Derbynnydd newid y categorïau hyn eu hunain ar eu cyfrif GovDelivery trwy fewngofnodi gyda'u cyfeiriad e-bost.

8. Os yw Derbynnydd yn dymuno dad-danysgrifio o Gylchlythyr Cadw, gall y Derbynnydd glicio ar y botwm 'Dad-danysgrifio' a gynhwysir ym mhob cylchlythyr neu ddad-danysgrifio trwy fewngofnodi i'w cyfrif GovDelivery a dad-ddewis y Cylchlythyr Cadw perthnasol. Os bydd gan y Derbynnydd unrhyw broblemau wrth geisio dad-danysgrifio, gellir cysylltu â Thîm Marchnata Cadw ar cadwmarketing@gov.wales i ddad-danysgrifio ar ran y Derbynnydd.

9. Bydd data personol y Derbynnydd yn cael ei anfon ar ffeil i gael Cylchlythyr Cadw am byth hyd nes bydd y Derbynnydd yn dad-danysgrifio o Gylchlythyr Cadw.