Skip to main content

Ymunwch ag Erwyd le Fol, Cellweiriwr Conwy, yn y castell bob dydd Gwener yn ystod gwyliau haf yr ysgol, am ychydig o hwyl ganoloesol i’r teulu!

Bydd cellweiriwr preswyl Conwy, Erwyd le Fol, yn dychwelyd i’r castell gyda’i sioe yr haf hwn. Erwyd yw’r cellweiriwr sydd wedi gwasanaethau hiraf yn hanes y dref, ac mae ei gymysgedd o jyglo a chomedi yn sicr o ddiddanu cynulleidfaoedd o bob oed.

Eleni, bydd y bardd ei hun, Cyfarwydd Cymru, yn ymuno ag Erwyd. Bydd Cyfarwydd Cymru yn eich diddanu a hen chwedlau am ddreigiau, tylwyth teg, a chreaduriaid hudolus sydd wedi hen fynd yn angof.

Wrth i chi archwilio tyrau’r castell, fe welwch chi ein dewin, Jay Gatling. Mae ganddo dric neu ddau i fyny ei lawes bob amser a fydd yn eich syfrdanu a’ch diddanu. Sioe i beidio â’i cholli yw hon!

Hefyd, o fewn y castell, mae ein gweithdy hudlath. Yma mae egin dywysogion, tywysogesau, marchogion, a dewiniaid yn gallu creu eu hudlath eu hunain i fynd adref gyda nhw.

Y tu allan, fe welwch ein gweithdy sgiliau cellweiriwr lle gallwch roi cynnig ar jyglo, troelli plât, hwla hwpio, cerdded ar stiltiau, ynghyd â llawer mwy.

Ac, i’r bobl ifanc hynny sy’n dymuno hyfforddi i amddiffyn y castell, gallwch gael tro ar ein saethyddiaeth sy’n addas i blant.

Dyw’r haf yng Nghastell Conwy erioed wedi bod cystal!

 

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 26 Gorff 2024
10:00 - 16:00
Gwen 02 Awst 2024
10:00 - 16:00
Gwen 09 Awst 2024
10:00 - 16:00
Gwen 16 Awst 2024
10:00 - 16:00
Gwen 23 Awst 2024
10:00 - 16:00
Gwen 30 Awst 2024
10:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£12.50
Teulu*
£40.00
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£8.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£11.90

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Conwy