Diwrnod Cellweiriwr Conwy
Ymunwch ag Erwyd le Fol, Cellweiriwr Conwy, yn y castell bob dydd Gwener yn ystod gwyliau haf yr ysgol, am ychydig o hwyl ganoloesol i’r teulu!
Bydd cellweiriwr preswyl Conwy, Erwyd le Fol, yn dychwelyd i’r castell gyda’i sioe yr haf hwn. Erwyd yw’r cellweiriwr sydd wedi gwasanaethau hiraf yn hanes y dref, ac mae ei gymysgedd o jyglo a chomedi yn sicr o ddiddanu cynulleidfaoedd o bob oed.
Eleni, bydd y bardd ei hun, Cyfarwydd Cymru, yn ymuno ag Erwyd. Bydd Cyfarwydd Cymru yn eich diddanu a hen chwedlau am ddreigiau, tylwyth teg, a chreaduriaid hudolus sydd wedi hen fynd yn angof.
Wrth i chi archwilio tyrau’r castell, fe welwch chi ein dewin, Jay Gatling. Mae ganddo dric neu ddau i fyny ei lawes bob amser a fydd yn eich syfrdanu a’ch diddanu. Sioe i beidio â’i cholli yw hon!
Hefyd, o fewn y castell, mae ein gweithdy hudlath. Yma mae egin dywysogion, tywysogesau, marchogion, a dewiniaid yn gallu creu eu hudlath eu hunain i fynd adref gyda nhw.
Y tu allan, fe welwch ein gweithdy sgiliau cellweiriwr lle gallwch roi cynnig ar jyglo, troelli plât, hwla hwpio, cerdded ar stiltiau, ynghyd â llawer mwy.
Ac, i’r bobl ifanc hynny sy’n dymuno hyfforddi i amddiffyn y castell, gallwch gael tro ar ein saethyddiaeth sy’n addas i blant.
Dyw’r haf yng Nghastell Conwy erioed wedi bod cystal!
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.