Skip to main content

Nid lle gweddi yn unig oedd Glyn y Groes. Am dair canrif gythryblus, roedd yn gymuned waith a’i bywoliaeth yn dibynnu ar gyfres o ffermydd anghysbell a elwid yn faenorau. 

Roedd bywyd yno’n wahanol iawn gan ddibynnu ai côr-fynach neu frawd lleyg oeddech chi. Treuliai mynach ei fywyd yn gweddïo ac astudio, yn mynychu wyth gwahanol wasanaeth bob dydd yn eglwys yr abaty. Pan na fyddai’n gweddïo, byddai’n copïo llawysgrifau.  

Codai’r brodyr lleyg gyda’r wawr ac, oni bai mai dydd Sul oedd hi neu ddydd gŵyl, aent allan i lafurio yn y caeau. Byddent yn bwyta yn eu ffreutur eu hunain ac yn cysgu yn eu hundy eu hunain. Byddent hyd yn oed yn addoli mewn gwahanol ran o’r eglwys, a sgrin yn eu gwahanu oddi wrth y côr-fynaich.