Etifeddiaeth wedi'i cherfio mewn carreg
Lledaenodd y neges Gristnogol i Gymru wledig unwaith y syrthiodd yr Ymerodraeth Rufeinig – a dechreuodd ton newydd o benaethiaid lleol ddod yn ben ar bethau.
Roedd dynion o'r fath yn arddangos eu hunanbwysigrwydd gyda cherrig coffa wedi'u harysgrifio mewn Lladin, fyddai’n aml yn defnyddio'r fformiwla Gristnogol Hic lacet (Yma Gorwedd). Byddai’r rhai oedd yn ddisgynyddion mewnfudwyr Gwyddelig yn ychwanegu arysgrif mewn sgript ogam, neu Hen Wyddeleg. Mae carreg goffa ddwyieithog yr amgueddfa i Pumpeius yn un enghraifft wych.
Yn y chweched ganrif roedd y rhan fwyaf o bobl eisoes yn Gristnogion ond nid oedd gan yr Eglwys yr adnoddau i adeiladu rhwydwaith o eglwysi gwledig. Yn lle hynny, byddai’r penaethiaid hyn, fu unwaith yn bwerus, yn cael eu cofio ar ymyl y ffordd.