Skip to main content

Nid dim ond cerrig llonydd Cricieth sy’n adrodd wrthym am fywyd yn y gaer ganoloesol ysblennydd hon. Mae gennym hefyd farddoniaeth.

Ysgrifennwyd y gerdd fwyaf adnabyddus am Cricieth yn y 14eg ganrif gan y bardd Cymraeg Iolo Goch. Mae'n dathlu’r ‘garreg rudd ar gwr grofft’  a llys soffistigedig Syr Hywel y Fwyall.

Cafodd Syr Hywel ei urddo’n farchog yn sgil ei ddewrder yn y Rhyfel Can Mlynedd, ac ef oedd un o'r Cymry cyntaf i gael ei benodi’n gwnstabl ar gastell yng ngogledd Cymru.

Ymddengys bod Iolo Goch wrth ei fodd bod Cricieth yn ôl yn nwylo Cymru o'r diwedd. Mae'n portreadu Syr Hywel a'i wraig yn ei gwregys aur yn estyn lletygarwch tra bod morynion hardd yn gwau sidan llachar yn y neuadd fawr.

Bu Syr Hywel yn gwnstabl y castell am dros 20 mlynedd hyd ei farwolaeth yn 1381 – cyfnod y cofir yn hir amdano fel oes aur Criccieth. Ond nodwyd ei ddirywiad hefyd mewn barddoniaeth.

Yn dilyn ymosodiad gan Owain Glyndŵr, mae'r bardd Owain Waed Da yn ysgrifennu bod y ‘creigiog fain caregog fur 'wedi syrthio a’r castell bellach yn ddiwerth.

Ganrif yn ddiweddarach, yn ôl bardd lleol arall, mae Cricieth yn cael ei gorfodi i ymbil ar drigolion Harlech i ddarparu pâr o sanau. Mae'r castell mor adfeiliedig fel na all ei garchar – cadarn ar un adeg – bellach ddal ‘dynion creulon’.

Roedd ‘caer fawrdeg acw ar fordir' – castell Cricieth, a fawrygwyd gan Iolo Goch wedi mynd am byth. Ond mae mwy na digon o’r mawredd yn parhau. Y castell hwn, a adeiladwyd gyntaf bron i 800 mlynedd yn ôl, yw un o'r adfeilion mwyaf ysblennydd yng Nghymru.