Y tywysog yn y tŵr
Tŵr yr Eryr yw prif dŵr Castell Caernarfon, gyda thri thwred mawr a muriau trwchus 18 troedfedd. Byddai trigolion pwysicaf y palas brenhinol yn cysgu yn y tŵr ysblennydd hwn.
Pan ddaeth y Brenin Edward I a’i frenhines Eleanor i Gaernarfon am y tro cyntaf yn haf 1283, ychydig iawn o waith oedd wedi’i gyflawni dan oruchwyliaeth y pensaer, Meistr James o St George. Bu’n rhaid iddynt letya mewn adeiladau pren ynghanol y safle adeiladu.
Roedd y frenhines yn feichiog pan ddychwelodd y pâr brenhinol i Gaernarfon y Pasg canlynol. Er nad oedd y tŵr wedi’i gwblhau, roedd modd i’r ddau letya ynddo.
Ar 25 Ebrill 1284, ganwyd mab i Eleanor, Edward o Gaernarfon, a sefydlwyd llinach frenhinol newydd. Yn 1301, fe’i cyflwynwyd i fonedd Cymru fel tywysog ‘a aned yng Nghymru ac na fyddai fyth yn yngan gair o Saesneg’.
Y gwirionedd wrth gwrs oedd mai ef oedd y Sais cyntaf i fod yn Dywysog Cymru — a’r holl arian o diroedd y Goron yng Nghymru yn perthyn iddo ef. I genedl a oedd wedi’i choncro’n ddiweddar, roedd yn bilsen chwerw i’w llyncu.
Nid ar ddamwain y ganwyd y tywysog brenhinol, sef Edward II yn ddiweddarach, yng Nghaernarfon. O’r dechrau cyntaf, roedd Castell Caernarfon wedi’i ddewis ar gyfer mawredd. Roedd ei uchelgais imperialaidd a’i faint epig yn ei wneud yn gartref pwrpasol ar gyfer cynrychiolydd y brenin yng Nghymru.
Ers 700 mlynedd, mae mab hynaf y teyrn wedi mabwysiadu teitl Tywysog Cymru. Yn 1911, cynhaliwyd arwisgiad y Tywysog Edward yng Nghaernarfon, diolch i David Lloyd George, yr unig Gymro Cymraeg i fod yn brif weinidog Prydain hyd yma.
Arwisgwyd y Tywysog Siarl yma hefyd yn 1969 — gyda cherflun treuliedig Edward II yn gwylio’r cyfan o’r uchelfannau uwchben Porth y Brenin.
Ymweld ag Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wedi’i leoli mewn dau dŵr yng Nghastell Caernarfon. Ynddi fe welwch gyfoeth o wrthrychau ynghyd â ffilm, sain a modelau, sy’n adrodd hanes dros 300 o flynyddoedd o wasanaeth catrawd troedfilwyr hynaf Cymru mewn cyfnodau o heddwch a rhyfel, ar draws y byd. Am fwy o wybodaeth ewch i : https://rwfmuseum.org.uk/cym/index.php