Skip to main content

Ni fabwysiadodd tywysogion cynnar Cymru’n rhwydd yr arfer Normanaidd o adeiladu cestyll. Roedd yn well ganddynt ffordd fwy crwydrol o fyw, gan symud rhwng llysoedd diamddiffyn ar wasgar ar draws eu tiroedd.  

Mewn gwirionedd, allan o fwy na 470 o gaerau ledled Cymru, roedd llai na 40 wedi’u hadeiladu’n bendant gan ddwylo brodorol. Nid tan y 13eg ganrif y dechreuodd tywysogion Cymru adeiladu cestyll cerrig mor nerthol â’r rheini a godwyd gan Arglwyddi’r Mers ar y ffin.

Fe welwch yr esiamplau ceinaf yn nheyrnasoedd hynafol Cymru. Yn Neheubarth y de-orllewin mae Castell Dinefwr, a adeiladwyd gan Arglwydd Rhys ac a gryfhawyd yn fawr gan ei ddisgynyddion. Yma yng Ngwynedd i’r gogledd mae Dolwyddelan ynghyd â Chastell y Bere a Dolbadarn gerllaw. 

Felly sut mae sylwi ar y gwahaniaeth rhwng cestyll y Cymry a’r Saeson? Yn wahanol i gaerau geometrig y Saeson, mae cestyll y Cymry’n tueddu i fod yn afreolaidd, wedi’u teilwra i’w safleoedd creigiog. Yn aml, byddai ffosydd dwfn wedi’u torri yn y graig yn cryfhau eu hamddiffynfeydd naturiol. Roedd y waliau’n is na waliau’r Saeson, heb gynnig fawr o ddiogelwch i’r tyrau siâp-D nodweddiadol (nid rhai cylch) sef y gwir gadarnleoedd.    

Ond rhoes y cestyll gryn bwysau ar bwrs y tywysog. Pan ddechreuodd Llywelyn Fawr y gwaith ar Ddolwyddelan ychydig ar ôl 1210, rhaid bod ganddo resymau da iawn.  

Un rheswm yn bendant oedd ei lecyn strategol yn gwarchod llwybr allweddol drwy’r mynyddoedd. Roedd y llall yn gwbl symbolaidd. Roedd arno eisiau ei gwneud yn glir iawn i bawb – y Saeson a’r Cymry fel ei gilydd – mai ef oedd y gwir feistr ar y dirwedd epig hon.