Meddylfryd gwarchae
Alaw fyddarol ‘Gŵyr Harlech’ yw anthem genedlaethol arall Cymru, sy’n annwyl iawn i gefnogwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd. Yn ôl y ffilm ‘Zulu’ byddai hyd yn oed y garsiwn yn Nrifft Rorke yn ei chanu’n frwd.
Nid yw’n syndod mai Castell Harlech a ysbrydolodd y stori hon o arwriaeth yn nannedd anfanteision. Gwelodd ei dyrau mawr a’i furiau garw warchae ar ôl gwarchae yn ystod rhai o ornestau mwyaf arwrol hanes Cymru.
Yn ystod Rhyfelodd y Rhosynnod, amgylchynwyd y castell, a oedd ym meddiant y Lancastriaid, gan fyddin Iorcaidd anferthol dan reolaeth William Herbert o Raglan. Soniodd y bardd Hywel Dafi am ddynion yn cael eu hollti gan sŵn gynnau, a saith mil o ddynion yn saethu ym mhob porth, a’u saethau wedi’u gwneud o bob ywen.
O dan y cyrch ffyrnig hwn, ildiodd y castell mewn llai na mis. Cymerwyd hanner cant o garcharorion gan gynnwys y Cymro o gwnstabl Dafydd ab Ieuan ab Einion, a oedd wedi cadw ‘Harlech fach gyhyd, ffyddlon yn unig i’r goron wan’.
Y rhain oedd ‘Gŵyr Harlech’ arwrol y gân. Heblaw, hynny yw, eich bod chi’n credu’r theori arall.
Ym 1404 cwympodd y castell i’r tywysog carismatig Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn rheolaeth y Saeson. Ynghyd â Machynlleth gerllaw, daeth yn ganolfan i weledigaeth ysbrydoledig Glyndŵr am Gymru annibynnol.
Symudodd ei brif breswylfa a llys yma a galwodd ar ei ddilynwyr o bob cwr o’r wlad i ddod i senedd fawr. Mae’n ddigon posibl mai yng Nghastell Harlech y cafodd ei goroni’n ffurfiol yn Dywysog Cymru ym mhresenoldeb cenhadon o’r Alban, Ffrainc a Sbaen.
Ond ni pharhaodd y gorfoledd hwn. Erbyn 1409 roedd Harlech dan warchae lluoedd Harri o Drefynwy – sef Harri V, arwr Agincourt, yn ddiweddarach. A dweud y gwir, byrstiodd un canon enfawr â’r llysenw ‘merch y brenin’ yn ystod ei beledu di-baid ar furiau’r castell.
Yn y pen draw, yn llwglyd ac wedi ymlâdd, cwympodd y garsiwn. Dihangodd Glyndŵr ei hun ond cipiwyd ei wraig a’i ferched. Ai’r Cymry gwrol hyn o amddiffynwyr oedd gwir Ŵyr Harlech, efallai?
Roedd amser o hyd am un gwarchae enwog arall. O wanwyn 1644 amddiffynnwyd Harlech i’r brenin gan ei gwnstabl y Cyrnol William Owen. Hwn oedd cadarnle olaf y brenin i syrthio. Erbyn i’r garsiwn a oedd yn weddill yno ildio o’r diwedd ym 1647, sef 16 o swyddogion, bonheddwyr a methedigion, roedd Rhyfel Cartref Lloegr ar ben.