Nadolig Llawen iawn yng Nghastell Coch
Dewch i un o'n sesiynau Siôn Corn!
Mae sesiynau Siôn Corn yn cynnwys mynediad i Groto Siôn Corn, yn ogystal â’r cyfle i ysgrifennu llythyr at Siôn Corn.
Archebwch docynnau ymlaen llaw ar-lein i’ch plant gael ymweld â Groto Siôn Corn.
6, 7, 13, 14 Rhagfyr - Sesiynau Saesneg.
(Sylwer: Nid yw tocynnau henebion Cadw a thocynnau digwyddiadau nad ydynt yn rhai Cadw yn ddilys ar gyfer y digwyddiad hwn).
Sut i archebu
- Cliciwch Archebu nawr a dewiswch y tocynnau sydd eu hangen arnoch yn ôl ystod oedran. (rydym yn cynnig 2 fath o docyn o 0–17 oed)
- Dewiswch eich slot amser
- Ewch i dalu (rhaid archebu pob tocyn Siôn Corn ymlaen llaw)
Byddwch yn brydlon ar gyfer eich slot Siôn Corn. Mae croeso i chi gyrraedd yn gynt a mwynhau crwydro o amgylch y castell a chymryd rhan yn y gweithgareddau. Ond fe fydd y castell a'r gweithgareddau’n dechrau cau am 3.30pm.
Diolch. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Nadolig yng Nghastell Coch!
Pan fyddwch chi'n ymweld
- Dewch â phrawf o'ch archeb ar-lein gyda chi
- cyflwynwch eich cod QR i ni ei sganio (gallwch arddangos hwn ar eich dyfais symudol neu ddod â chopi caled)
- Noder bod gofyn i ymwelwyr sy'n oedolion brynu eu tocynnau mynediad i fynd i mewn i'r castell wrth gyrraedd.
Mae pob tocyn Groto Siôn Corn yn cynnwys mynediad i blant i'r castell ac i'r groto.
Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i'ch archeb, gallwn ddod o hyd i'ch archeb trwy eich enw a/neu gyfeiriad e-bost.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
| 0-18 mis oed |
Am ddim
|
| 18 mis-4 oed |
£5.00
|
| 5-17 oed |
£10.00
|