Skip to main content

Ymunwch â ni am benwythnos hanesyddol aml-gyfnodol o hanes byw, arddangosfeydd a hwyl!

Cewch wylio grwpiau hanes byw o sawl cyfnod wrthi’n byw eu bywydau bob dydd. Gallwch weld ail-greadau ac arddangosfeydd, crwydro'r gwersylloedd, ac ymgolli’n llwyr yn y gorffennol.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 25 Awst 2024
11:00 - 16:00
Llun 26 Awst 2024
11:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.00
Teulu*
£31.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£7.00
Pobl hŷn (Oed 65+)
£9.20

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
 

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Rhaglan