Plantagenetiaid yng Nghastell Harlech
Twrnamaint gwefreiddiol o farchogion arfog, ceffylau a chyfarpar rhyfela. Yn ogystal bydd arddangosiadau saethyddiaeth cywrain, dawnsfeydd gosgeiddig a cherddorion medrus yn rhoi blas go iawn i chi o fywyd canoloesol yng Nghastell Harlech.