Skip to main content
Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw.

Beddrod llawn awyrgylch gydag enghreifftiau prin o gelf gynhanes.

Dewch i ymuno ag un o’n teithiau o gwmpas y safle hynod ddiddorol hwn, yng nghwmni’r tywysydd taith, Rhys Mwyn.

Mae Barclodiad y Gawres (The Giantess’s Apronful yn Saesneg) yn rhoi cipolwg dadlennol – ac annisgwyl – ar fywydau ein cyndadau hynafol. Yn eistedd ar glogwyn mewn safle rhyfeddol, adluniad modern yw’r 90 troedfedd/27m o dwmpath pridd, ond islaw hwnnw ceir 23 troedfedd/7m o dramwyfa sy’n arwain at siambr siâp croes sy’n gartref i drysorau mwyaf cyffrous y beddrod.

Ymhlith cyfres o gerrig mae pump wedi’u hysgythru â phatrymau igam-ogam a throellog dyrys, sy’n awgrym o arwyddocâd y safle i drigolion cynnar Ynys Môn. Er bod cerfiadau tebyg wedi’u canfod mewn safleoedd Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) yn Iwerddon, mae’r unig feddrod arall yn y DU sydd ag enghreifftiau o gelf fegalithig debyg ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Mryn Celli Ddu.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 


Prisiau

Am Ddim
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres