Skip to main content

Telerau ac Amodau Arolwg ar gyfer Abaty Nedd

Mae Cadw yn cynnig cyfle i ennill un o’r tri chynnig aelodaeth, fel y nodir isod yn unol â’r telerau ac amodau cyffredinol hyn sy’n ymwneud â chystadlaethau arolwg.

  • bydd y gystadleuaeth yn rhedeg cyhyd â’r arolwg, a fydd yn dod i ben ar 20/02/2022
  • drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn derbyn y telerau ac amodau cyffredinol hyn sy’n ymwneud â chystadlaethau arolwg.

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch yr arolwg a rhowch eich cyfeiriad e-bost ar y dudalen olaf a byddwn yn eich rhoi yn y raffl.

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid i ddefnyddiwr cofrestredig:

  • ateb yr holl gwestiynau a nodwyd fel sy’n ofynnol yn yr arolwg
  • rhoi caniatâd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn yr arolwg drwy roi eich cyfeiriad e-bost
  • ni chânt fod yn gyflogai nac yn gyflenwr i Cadw na Llywodraeth Cymru
  • cwblhau’r arolwg unwaith.

Dewis enillydd a hawlio’r wobr

  • bydd Cadw yn dewis tri enillydd ar hap ar 31/03/2022
  • mae aelodaeth oes Cadw wedi’i heithrio o’r wobr
  • mae dewis enillwyr yn broses gwbl ar hap, lle nad yw Cadw yn arfer unrhyw farn, ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal mewn perthynas â chystadlaethau
  • ni fydd manylion adnabod yr enillwyr yn cael eu datgelu na’u cyhoeddi
  • bydd e-bost yn cael ei anfon at yr enillydd yn eu cynghori eu bod wedi ennill. Er mwyn hawlio’u gwobr, rhaid i enillwyr ymateb i’r e-bost o fewn 14 diwrnod
  • bydd y gwobrau (un o’r tri chynnig aelodaeth) yn cael eu gweinyddu o fewn 30 diwrnod o ymateb i’r e-bost
  • ni fydd y cynigion hynny nad ydynt yn enillwyr yn derbyn gohebiaeth bellach gan Cadw ynglŷn â’u cynnig
  • drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth a derbyn y telerau ac amodau cyffredinol hyn sy’n ymwneud â chystadlaethau arolwg, rydych chi’n cydsynio i Cadw ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi os byddwch chi’n ennill.