Treftadaeth Aros Gartref
Teimlo’n rhwystredig am na allwch adael y tŷ?
Darllenwch ymlaen!
Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau i’w mwynhau gartref, wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth.
Mae llond gwlad o erthyglau, casgliadau a theithiau rhithwir ar gael ar-lein. Byddwn yn diweddaru ein rhestr pan fydd gweithgareddau newydd ar gael, felly cofiwch ddod yn ôl i ddysgu am ein cyfleoedd newydd.
Diddordeb yn yr asedau hanesyddol sy’n cael eu gwarchod yng Nghymru? Gallwch ddarganfod ein henebion, adeiladau a thirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol trwy ddefnyddio gwasanaeth Cof Cymru Cadw.
Ddysgwch fwy am yr archaeoleg a’r hanes ar garreg eich drws ac mewn rhannau eraill o Gymru trwy ddefnyddio gwasanaeth cofnodion amgylchedd hanesyddol digidol Archwilio Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a Coflein, catalog ar-lein Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth am dreftadaeth archaeoleg, adeiladau, diwydiant a’r môr.
Defnyddiwch Casgliad y Werin Cymru i ddarganfod hanes ac archaeoleg hynod ddiddorol Cymru. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn cynnwys miloedd o eitemau wedi’u lanlwytho gan unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau treftadaeth ledled Cymru. Neu fe allwch fynd cam ymhellach a dechrau lanlwytho’ch atgofion eich hun!
Mae Casgliad y Werin Cymru yn awyddus i archifo’r enfysau sydd wedi’u creu gan ein plant fel atgof ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hefyd, bob dydd Iau bydd yn dathlu hanes gofal iechyd yng Nghymru.
Defnyddiwch adnoddau dysgu Cadw i greu atgynyrchiadau bach o'n henebion enwocaf o LEGO® neu gallwch ddysgu beth oedd yn digwydd ar er ein safleoedd drwy'r canrifoedd. Archwiliwch ein tudalen dysgu creadigol yma.
Porwch drwy’r casgliadau, gweithgareddau dysgu ac adnoddau ar-lein sy’n cael eu cadw gan y saith amgueddfa sy’n rhan o Amgueddfa Cymru.
Gallwch ddarganfod treftadaeth Cymru trwy edrych ar ffotograffau hanesyddol hynod drawiadol o’r awyr Prydain oddi fry a mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol diddorol iawn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.
Dysgwch am hanes Cymru trwy ddeg gwrthrych.
Darllenwch erthyglau hynod ddiddorol yn ymwneud â Chymru a Hanes Cymru ar HistoryExtra, diolch i’r cylchgrawn BBC History.
Dysgwch am wrthrychau mewn amgueddfeydd ledled y wlad trwy chwilio am #MuseumsFromHome — gan rannu eich gwrthrychau'ch hun hefyd!
Rhannwch eich hanesion am y GIG gyda phrosiect y GIG yn 70 oed. Mae’r prosiect yn creu archif digidol o hanes y gwasanaeth iechyd trwy recordio hanesion pobl sydd wedi gweithio i’r GIG, neu wedi cael gofal ganddo, ers ei sefydlu ym 1948.
Porwch drwy’r casgliad cynyddol o erthyglau cyfnodolion ac e-lyfrau mynediad agored, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â Chymru trwy JSTOR, y llyfrgell ddigidol ar gyfer ysgolheigion, ymchwilwyr a myfyrwyr.
Archwiliwch gasgliadau celf cyhoeddus Cymru gydag Art UK.
Gwrandewch ar gasgliadau sain hanesyddol ac ysbrydoledig a gofnodwyd gan Y Llyfrgell Brydeinig.