Drysau Agored Cadw Ar-lein
Dewch i ddarganfod byd rhithwir o dreftadaeth Cymru fis Medi
Byddwch yn barod i archwilio deg o'n safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol fel erioed o'r blaen...
Fis Medi, rydyn ni’n lansio casgliad epig o brofiadau trochi digidol, teithiau rhithwir cyflawn a gwibdeithiau 3D o gwmpas safleoedd — gan ganiatáu i chi ymweld â rhai o'ch hoff henebion a thirnodau hanesyddol yn rhithwir, o gysur eich hoff soffa.
Mae'r cyfan yn rhan o ddathliad arbennig iawn o dreftadaeth a diwylliant adeiledig Cymru ar gyfer 2020: Drysau Agored Cadw Ar-lein.
Diolch i dechnoleg sganio 3D flaengar, rydyn ni’n eich gwahodd chi i grwydro dyfnderoedd cudd rhai o'n safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig gan gynnwys: Castell tylwyth teg eiconig Cymru, Castell Coch, Siambr Gladdu Pentre Ifan a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Castell Harlech.
Bydd ein profiadau digidol hygyrch o safleoedd ar gael i'w gweld a'u harchwilio ar y dudalen we hon — gyda phecynnau cynnwys thematig wythnosol i'w rhyddhau fesul cam drwy gydol mis Medi.
Mae wedi'i ddylunio i weithio ar bob dyfais, felly y cyfan fydd ei angen arnoch yw cyfrifiadur bwrdd gwaith, ffôn symudol neu set VR i ymdrochi yn eich antur Drysau Agored Ar-lein dewisol.
Dewiswch ymhlith ein pecynnau cynnwys isod i gael gwybod mwy am ein profiadau rhithwir thematig:
Beddau Neolithig | (rhyddheir ddydd Mawrth 1 Medi) | ||
Cestyll y De | (rhyddheir ddydd Llun 7 Medi) | ||
Abatai a Gweithfeydd Haearn | (rhyddheir ddydd Llun 14 Medi) | ||
Cestyll y Gogledd | (rhyddheir ddydd Llun 21 Medi) |
Pssst… os ydych chi'n poeni am anghofio am ddyddiad rhyddhau eich hoff becyn cynnwys thematig, dilynwch ni ar Facebook neu Twitter i gael rhagflas a nodyn atgoffa am yr wythnosau thematig rhwng 1-30 Medi 2020.
Drysau Agored Cadw Ar-lein
Noder: mae Drsau Agored Cadw Ar-lein yn cymryd lle cymryd rhan a chyfrannu i ŵyl blynyddol Drysau Agored yn gorfforol— nad yw'n gallu digwydd eleni oherwydd pandemig y coronafeirws.
Er ein bod ni a nifer o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru fel arfer yn edrych ymlaen at groesawu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i henebion, amgueddfeydd a thrysorau hanesyddol cudd ein gwlad am ddim yn ystod mis Medi, byddai'n anymarferol ac yn anghyfrifol inni hwyluso digwyddiad o'r math hwn yn yr hinsawdd bresennol. O’r herwydd, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau'r ffordd amgen ac unigryw hon o ymgysylltu â deg o’n safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol elenii.
Diolch am eich dealltwriaeth.