Skip to main content

Mae Cadw a Chymdeithas Gwyliau Teulu yn cydweithio er mwyn cynorthwyo teuluoedd o Gymru sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i ddiwrnodau allan hollbwysig. 

Gall diwrnod allan syml wella lles y teulu, cynnig rhyddhad o unrhyw straen yn y cartref a chynnig cyfle i greu atgofion teuluol gwerthfawr i’w cadw am byth.  

Bydd y bartneriaeth yn helpu teuluoedd sy’n wynebu rhai o heriau mwyaf bywyd, gan gynnwys salwch difrifol a salwch hirdymor, cyflyrau iechyd meddwl, profedigaeth a thrais yn y cartref. Bydd pob teulu yn cael eu hatgyfeirio gan rywun sy’n gweithio gyda nhw mewn rôl gefnogi broffesiynol. Trwy weithio gyda’r cyfeirwyr, bydd y Gymdeithas Gwyliau Teulu yn medru bod yn sicr bod y tocynnau’n helpu teuluoedd a fydd yn cael y budd mwyaf.  

Nod y cynllun yw helpu teuluoedd o gymru i brofi a mwynhau treftadaeth a diwylliant lleol a chenedlaethol (efallai am y tro cyntaf) gan ddefnyddio rhai o leoliadau mwyaf trawiadol y wlad i ymlacio, dianc rhag y byd a’I bethau am y diwrnod a mwynhau ychydig o amser gyda’i gilydd.

Sut i gofrestru

Bydd y tocynnau am ddim yn cael eu rhannu gan y Gymdeithas Gwyliau Teulu trwy’r cyfeiriwr sy’n gweithio gyda theuluoedd ar draws Cymru. Er mwyn cofrestru fel cyfeiriwr Cymdeithas Gwyliau Teulu ewch i: familyholidayassociation.org.uk/apply-for-a-break/

Mae cyfeirwyr Cymdeithas Gwyliau Teulu yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys ysgolion, Gwasanaethau Plant/Teuluoedd, canolfannau plant, elusennau, e.e. Barnado’s, Shelter, llochesau a gwasanaethau cefnogi trais yn y cartref, cymdeithasau tai a thimau iechyd cymunedol.

Noder

Nid yw Cymdeithas Gwyliau Teulu yn gallu derbyn ceisiadau yn uniongyrchol gan deuluoedd. Fe fydd y ceisiadau’n dod gan gyfeirwyr cofrestredig yn unig.

Nid yw’r cynnig yn gymwys yn y safleoedd Cadw sy’n cael eu cyd-reoli, sef Carreg Cennen, Dolwyddelan, Cerrig Margam neu Gastell Weble.