Skip to main content

Mae Cadw yn cynnig Ymweliadau Hunan ddarpar am ddim gyda Chefnogaeth, mewn lleoliadau Etifeddiaeth Cadw sydd wedi eu staffio, ble mae taliad yn arferol, i gefnogi sefydliadau cymwys yn gweithio gyda theuluoedd ac unigolion gydag anghenion cymhleth.

Mae’n hyrwyddo ymweliadau i leoliadau Cadw drwy:

  • dimau gwasanaethau teulu llywodraeth leol, ar gyfer unigolion a/neu grŵpiau yn gweithio tuag at wella eu hamgylchiadau
  • elusennau ail hyfforddiant megis MIND a rhai’n cefnogi Dementia
  • asiantaethau â rhan mewn ail sefydlu/ail hyfforddi yn dilyn dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol
  • asiantaethau yn cefnogi mentrau Dychwelyd i’r Gwaith    
  • gweithgareddau cyfunol yn cefnogi’r uchod
  • grwpiau a drefnir gan y Family Holiday Association
  • ymweliadau grŵp gan sefydliadau sy’n cynrychioli ceiswyr lloches, fel y nodir yn y telerau ac amodau.

Dim ond ymweliadau gyda Chefnogaeth a drefnir y tu allan i amseroedd ymweld prysur sy’n gynwysedig yn y cynllun hwn. Mae’n rhaid talu am fynediad i bob digwyddiad cyhoeddus ychwanegol a drefnir ar leoliadau’n perthyn i Cadw. Mae pob cais am archebu yn ddibynnol ar argaeledd ac fel y gwelir orau.

Sut i archebu

  • gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen, yn deall ac yn gallu cydymffurfio â’n termau ac amodau*
  • ffonio’r lleoliad i wirio argaeledd y lleoliad ar gyfer y dyddiad yr hoffech ymweld. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw.  Er y byddwn yn trio ein gorau i brosesu eich archeb, ni allwn sicrhau ymweliad am ddim heb 5 diwrnod o rybudd. 
  • dim ond ar ôl i chi gadarnhau dyddiad ac amser gyda’r lleoliad, cwblhewch y ffurflen ar lein
  • rhaid i’r archeb gynnwys manylion cyswllt y person fydd yn arwain y grŵp ar ddiwrnod yr ymweliad.   

*Os nad ydych yn sicr, ar ôl gweld y termau ac amodau hyn, a yw eich grŵp yn gymwys i dderbyn ymweliad addysgol am ddim, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â blwch postio Addysg Cadw.

Nodwch

Nid yw’r cynnig yn gymwys yn y safleoedd Cadw sy’n cael eu cyd-reoli, sef Carreg Cennen, Dolwyddelan, Cerrig Margam neu Gastell Weble.