Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Mae'r tocynnau am ddim ar gael i rai o'r llefydd mwyaf eiconig ledled y wlad ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni

O gestyll syfrdanol i safleoedd crefyddol heddychlon a safleoedd diwydiannol mawr a foldiodd y chwyldro diwydiannol, bydd mynediad i 17 o leoedd hanesyddol yng ngofal Cadw - sydd fel arfer yn codi tâl am fynediad - yn rhad ac am ddim y Dydd Gŵyl Dewi hwn [Dydd Sul 1 Mawrth].

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gofalu am rai o leoedd mwyaf poblogaidd Cymru sy'n llawn hanes sydd wedi llunio'r genedl.

Yn hytrach na thalu i gael mynediad i'r safleoedd hyn, mae Cadw yn gofyn i ymwelwyr ystyried rhodd wirfoddol i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r elusen sy'n gwasanaethu Cymru gyfan yn darparu gofal critigol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i'r rhai sydd angen cymorth brys. Mae cyfrannu'n gwbl wirfoddol, ond gall y rhai sy'n dymuno gwneud hynny gyfrannu yma.

Er mwyn mwynhau mynediad am ddim i un o'r lleoedd hanesyddol hyn y Dydd Gŵyl Dewi hwn, rhaid i ymwelwyr archebu eu tocynnau am ddim ar-lein ymlaen llaw.

Yn ogystal, er mwyn osgoi siom, cynghorir y bobl sy'n dymuno ymweld â Phlas Mawr a Chastell Coch i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosibl, gan fod cyfyngiad llym ar faint o docynnau sydd ar gael ar gyfer pob un o'r safleoedd hyn.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle mor bwysig i ddathlu popeth sy'n gwneud Cymru'n genedl arbennig gyda'n hunaniaeth a'n diwylliant unigryw.

"Ochr yn ochr â'n cronfa gwerth £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau a dathliadau cymunedol Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru eleni, mae'n wych bod pobl yn cael y cyfle i ymweld â rhai o'n lleoedd hanesyddol anhygoel ar 1 Mawrth. 

"Mae ymweld â safle Cadw yn ffordd wych o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a dysgu mwy am hanes anhygoel Cymru."

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:

"Rydw i mor falch y bydd Cadw, unwaith eto, yn rhoi tocynnau mynediad am ddim ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae ymweld ag un o'r lleoedd arbennig hyn sy'n llawn hanes yn ffordd wych o ddathlu'r hyn sy'n gwneud Cymru yn unigryw. Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi colli allan.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr hefyd yn cefnogi'r elusen rydyn ni wedi'i dewis, Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n gwneud gwaith anhygoel ledled y wlad."

Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Partneriaeth Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru:

Gall pobl fwynhau ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan wybod eu bod yn helpu i achub bywydau! Rydyn ni'n hynod o ddiolchgar y bydd pob ymwelydd â safleoedd Cadw yn cael mynediad am ddim ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cyfrannu at ein gwasanaeth achub bywydau.

"Ers ein lansio yn 2001, rydyn ni wedi gwneud dros 55,000 o deithiau. Ni allen ni fod wedi gwneud hynny heb gefnogaeth pobl Cymru, a byddwn bob amser yno iddyn nhw, ble bynnag, a phryd bynnag, y bydd ein hangen arnyn nhw."

Sut i hawlio eich tocynnau am ddim*

Ewch i dudalen Cadw'I ble hoffech chi fynd?' a dewiswch y lle hanesyddol yr hoffech ymweld ag ef

  • Cliciwch 'Archebu Tocynnau' a dewiswch y math o docyn (er enghraifft, oedolyn, teulu, neu berson hŷn)
  • Dewiswch 'Dydd Sul 1 Mawrth' a slot amser
  • Ychwanegwch eich tocynnau am ddim i'r fasged ac ewch i'r ddesg dalu

Bydd eich tocynnau am ddim yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei nodi wrth y ddesg dalu.

*Dewch â phrawf eich bod wedi archebu tocynnau ar ddiwrnod eich ymweliad