Adeiladau Rhestredig Newydd: Is-Ganolfan Rheoli Llandaf
Ar safle yn ymyl cylchfan yng ngogledd Caerdydd, wedi’i amgylchu gan lwyni a’i orchuddio gan eiddew, mae Is-ganolfan rheoli Llandaf, adeilad un-llawr, di-ffenestr o frics gyda tho gwastad nad yw llawer o bobl hyd yn oed yn sylwi arno.
Ond yn ddiweddar fe’i dynodwyd yn Adeilad Rhestredig gan Cadw, ac mae ei hanes yn sobreiddio rhywun wrth feddwl pa mor agos y bu Cymru i ddifodiant niwclear yn yr ugeinfed ganrif.
Mae adeilad yr Is-ganolfan ar derfyn allanol gerddi teras hardd sydd o gwmpas Cwrt Insole, plasty Fictoraidd a fu’n ganolfan, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i’r gwasanaethau argyfwng a oedd yn ymateb i’r cyrchoedd awyr, y Blitz, ar Gaerdydd.
Yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel cynyddodd y tensiynau rhwng y gwledydd a fu’n gynghreiriaid ac ym 1948 cafodd y Corfflu Amddiffyn Sifil ei adfer ar draws y DU, a dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerdydd wneud cynlluniau ar gyfer y posibilrwydd o Drydydd Rhyfel Byd.
Roedd arfau niwclear wedi eu dyfeisio a’u defnyddio gan yr Unol Daleithiau ac ym 1949 cynhyrchodd yr Undeb Sofietaidd ei fom atomig cyntaf, ac fe’i dilynwyd gan Brydain ym 1952. Y flwyddyn wedyn adeiladodd EC Roberts, Syrfëwr Dinas Caerdydd, Ganolfan Rheoli Amddiffyn Gwladol ar Heol Allensbank, nesaf at leoliad hollbwysig ar gyfer cyflenwad dŵr y ddinas ar un adeg. Adeiladodd hefyd ddwy Is-ganolfan Rheoli yn nwyrain a gorllewin y ddinas – yng Nghyncoed a Llandaf.
Is-ganolfan Rheoli Llandaf yw’r unig un o’r adeiladau hyn sydd wedi goroesi.
Y tu mewn i’r byncer mae gweddillion systemau Awyru, generaduron trydan, a gwelyau bync dur mewn ystafelloedd i aelodau’r Corfflu, gydag ystafell ar wahân i’r dynion a’r menywod. Mae agorfeydd negeseuon yn cysylltu’r Ganolfan Rheoli fawr, yr Ystafell Negeseuon ac Ystafell y Swyddogion Cyswllt, ac roedd ystafell y Swyddogion yn cynnwys cudd-agorfeydd ffoi mewn argyfwng yn arwain i’r tu allan.
Er yn adeilad cadarn, mae’n amlwg mai cynnyrch dechrau’r Rhyfel Oer ydyw, ac na fyddai gobaith iddo wrthsefyll bom hydrogen yn syrthio ar Gaerdydd.
Bod yn barod ar gyfer rhyfel oedd ffocws y Corfflu ond roedd ei aelodau’n ymateb i argyfyngau eraill, gan gynnwys llifogydd a thrychineb Aberfan. Hyd yn oed ar ôl i’r i’r Corfflu ddod i ben ym 1968, parhaodd gwirfoddolwyr i ofalu am yr adeilad a storio cyflenwadau argyfwng yno tan ddiwedd y Rhyfel Oer yn gynnar yn y 1990au.
Mae’n awr wedi ei warchod fel enghraifft brin o gynllunio Amddiffyn Sifil, a adeiladwyd ar gyfer rhyfel a ofnid yn fawr ond, diolch i’r drefn, na ddigwyddodd.
Pen-y-Graig, Pentre Celyn, Sir Ddinbych
Tŷ Coch, melin lifio, gweithdy saer, olwyn ddŵr a pheiriannau cysylltiedig