Annwn
Bydd cynhyrchiad i drochi'r gynulleidfa mewn sioe laser a sain gan Chris Levine yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed yng Nghastell Caernarfon ym mis Hydref eleni mewn cydweithrediad â'r cyfansoddwr a'r artist enwog, Gruff Rhys.
Mae Annwn, sy’n deillio o’r ‘iy project’, yn ddigwyddiad arloesol sy'n dod â golau laser, sain a natur at ei gilydd ar raddfa epig. Bydd y perfformiadau cyntaf yn digwydd yng Nghastell Caernarfon rhwng 27 Hydref a 29 Hydref 2023.
Tocynnau ar gael trwy Cadw a See Tickets — www.annwn.cymru
Mae’r artist o Gymru Gruff Rhys wedi creu cyfeiliant sain arbennig ar gyfer Annwn, yn seiliedig ar ei gasgliad blaenorol, ei archif a'i waith arbrofol diweddaraf. Bydd Gruff yn perfformio’r deunydd hwn, gan ymuno efo’r artist laser arloesol Chris Levine ar gyfer sioe drawiadol sain a golau o fewn waliau'r Castell.
Mi fydd y gynulleidfa yn cael eu trochi mewn perfformiad golau a laser ysblennydd gan Chris Levine i gyfeiliant sain arbennig Gruff Rhys, a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad. Mae’r trac sain 90 munud hwn wedi’i blethu at ei gilydd gan Marco Perry (Bjork), un o artistiaid sain 3D mwyaf blaenllaw’r byd ac yn ddylunydd sain ofodol preswyl.
Yn ystod y sesiynau arbennig yma, bydd Gruff Rhys yn perfformio’n fyw gyda gwaith laser Chris Levine yn gefnlen arallfydol, y cwbl wedi’i ysbrydoli gan weledigaeth Annwn - yr Arallfyd yn y Mabinogi.
Daeth y syniad gan yr artist golau Chris Levine
Yn deillio o’r ‘iy project’, sef ei waith gydag Eden Project, Cernyw, Annwn yw syniad yr artist golau rhyngwladol o fri Chris Levine a ddaeth i’r amlwg gyntaf gyda’i bortread enwog o 'The Queen, The Lightness Of Being' ac wedi hynny am ei ddefnydd arloesol o olau gyda’r artistiaid Massive Attack, Grace Jones a Jon Hopkins.
Gydag Annwn, mae Chris Levine a’i gydweithwyr Edenlab yn lansio fformat digwyddiad newydd chwyldroadol, gyda phrofiad trochi uchelgeisiol sy’n defnyddio pŵer laser, sain, pobl a lleoliad i greu profiad trawsnewidiol.
Meddai Chris Levine:
“Ar un lefel, Annwn yw’r sioe laser a sain orau y gallech chi erioed obeithio ei gweld, ond rydyn ni’n dod â rhai o dalentau creadigol a thechnegol gorau’r byd at ei gilydd i greu rhywbeth sy’n hollol wahanol i unrhyw beth y byddwch chi erioed wedi’i brofi mewn lleoliad gwirioneddol drawiadol!
Fe’i comisiynwyd yn wreiddiol fel canolbwynt hanner canmlwyddiant Glastonbury yn 2020. Rydym wrth ein bodd ei fod bellach yn dychwelyd i’w wreiddiau ac yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghymru”.
Mae Annwn yn fath newydd, pwerus o waith celf trochi byw, gyda holl gyffro dau o artistiaid gorau’r byd yn perfformio trwy dechnolegau sain a laser blaengar, ond heb 'brif lwyfan' yn yr ystyr cyngerdd byw traddodiadol. Y syniad yw caniatáu i gynulleidfaoedd gael eu trochi mewn profiad anhygoel ymhobman o’u cwmpas.
Ychwanegodd Chris Levine:
“Wrth greu’r gwaith hwn, rydym yn ymwybodol bod yr elfennau sain a golau yn fathau o egni ac mae’r gynulleidfa’n llythrennol yn tiwnio i mewn i’r gelfyddyd. Trwy roi sylw i laser pur a’r tonfeddi sain, gallwn fynd i fyd o fyfyrio a daw’r profiad yn eithaf arallfydol.”
Yng Nghastell Caernarfon, bydd amryw o systemau laser pwerus a sain 3D yn cael eu gosod o amgylch y muriau. Bydd y profiad y tu mewn i waliau'r castell yn cael ei gyfarwyddo a'i reoli gan yr artistiaid a'r technolegwyr fydd wedi eu lleoli mewn safle rheoli a ddyluniwyd yn arbennig ger y gofod perfformio.
Mae gwaith laser arloesol Chris Levine yn taflu goleuni hypnotig dros y gynulleidfa a’r lleoliad hynafol, gan godi’n uchel i awyr y nos. Mae’r gwaith wedi’i goreograffu’n hyfryd, gyda’r delweddau sy’n cael eu creu gan y laser i’w gweld dros furiau’r castell wrth i’r tywydd newid a rhyfeddodau naturiol – glaw, cymylau, niwl a phobl – greu sioe wirioneddol gyffrous.
Dywed Gruff:
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn berwi ers blynyddoedd bellach ac rwy’n hapus i gael y cyfle o’r diwedd i’w wireddu ar ôl taro wal yn ystod y cyfnod clo.
Rwyf wedi gweithio gyda’r dylunydd sain Marco Perry (sydd wedi gweithio gyda Bjork ymhlith eraill ar brosiectau sain ofodol) ar greu fersiynau newydd o rai o fy nghaneuon sy’n fwy ailadroddus ac amgylchynol. Caneuon fel Taranau Mai, Distant Snowy Peaks, Arogldarth a rhai darnau sy'n unigryw ar gyfer y digwyddiad.
Meddai Marco Perry:
"Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn gallu gweld sain fel siapiau a ffurfiau, ond yn fuan iawn sylweddolais nad pawb oedd yn gweld yr un peth a fi. Rydyn ni'n clywed tonfeddi, dirgryniadau, adlewyrchiadau yn gorfforol. Mae angen dychymyg i weld sain hefyd.
Artist sain a dylunydd yw Marco. Cynhyrchydd cerddoriaeth o recordiadau sain 3D ac arbenigwr sain ofodol. Drwy weithio gyda’i gydweithiwr David Clayton dan faner “The Mighty Monks” maen nhw wedi saernïo a chymysgu triniaethau sain i ddarparu tirwedd sonig i Annwn. Y nhw sy’n cyfrannu’r “glud sonig” sy’n dal pethau at ei gilydd wrth i Gruff a Chris fynd ar daith.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal i gefnogi Samariaid Cymru. Wedi cyfnod digynsail o darfu ac ansicrwydd, gwyddom fod llawer o bobl wedi dioddef trawma ac iechyd meddwl gwael. Mae mwy o anghydraddoldeb yng Nghymru ers y pandemig ac mae’r rhai oedd yn agored i niwed ar ddechrau’r cyfnod bellach yn wynebu lefelau uwch o ofid nag erioed o’r blaen.
Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru:
“Rydym yn hynod gyffrous a diolchgar i dîm Annwn am ddewis Samariaid Cymru fel eu helusen. Mae’r digwyddiad arloesol yma yn ceisio dod â phobl at ei gilydd i rannu profiad unigryw ac mae ganddo ffocws cryf ar gysylltu pobl. Dyma un o werthoedd craidd y Samariaid – credwn fod cysylltu efo pobl yn fodd cryf o amddiffyn pobl rhag risg hunanladdiad a chredwn y gall dangos trugaredd newid ac achub bywydau.”