Skip to main content
Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu
Wedi ei gyhoeddi

Camwch yn ôl mewn amser ym Mryn Celli Ddu, ger Llanfair PG, ar gyfer digwyddiadau hanes byw a llên gwerin, sy'n ceisio archwilio tirwedd, defod, llên gwerin, a dathlu archaeoleg trwy ddehongli creadigol. 

Mae Bryn Celli Ddu yn un o'r safleoedd archeolegol enwocaf ym Mhrydain, roedd y beddrod 5,000-mlwydd-oed ar un adeg wedi’i adeiladu i thalu parch i weddillion y cyndeidiau.

Diwrnod Agored Archaeoleg Bryn Celli Ddu

Rhwng 11–4pm ar 15 Mehefin, bydd diwrnod agored i ddathlu cynhanes Cymru a thu hwnt yn cael ei gynnal ym Mryn Celli Ddu. Eleni rydym yn edrych yn fanwl ar archeoleg a hanes hynafol o Oes Neolithig ac Efydd Cymru a thu hwnt ac yn tynnu sylw at y defnydd o liw yn y gorffennol.

Trwy gydol y dydd, bydd y mynychwyr yn cael eu gwahodd i wylio arddangosiadau naddu fflint byw gydag arbenigwyr fflint Ancient Crafts; mynd ar daith archaeoleg ddwyieithog o amgylch yr heneb gyda'r hynafiaethydd enwog Rhys Mwyn; gwylio arddangosiadau o dechnegau gwneud celf carreg hynafol; drwodd i ddarganfod mwy am liwiau naturiol hynafol, pigmentau paent mwynol ocr a daeareg liwgar yr ynys gyda Stone Science.

GWREIDDAU Digwyddiad llên gwerin i ddathlu 10fed penblwydd

Rhwng 4–8pm ar 22 Mehefin 2024, gwahoddir ymwelwyr i ymuno ag archeolegwyr ac artistiaid yn Bryn Celli Ddu am brynhawn ddiddorol o sgyrsiau, teithiau a gorymdaith a pherfformiadau wedi’u hysbrydoli gan lên gwerin, wrth i ni ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu’r prosiect.

Bydd y digwyddiad yn croesawu Ancient Ireland Music i’r safle, lle bydd atgynyrchiadau newydd o gyrn enwog Llyn Cerrig Bach yn cael eu chwarae ar y twmpath am y tro cyntaf erioed. Bydd sgyrsiau celf ac archaeoleg a gynhelir gan gyd-sylfaenydd Stone Club Matthew Shaw, yn cynnwys Kristoffer Hughes, Pennaeth Urdd Derwyddon Ynys Môn ac archeolegwyr y prosiect. Ymunwch yn ein gorymdaith llên gwerin lliwgar; archwiliwch ein ffos archaeoleg gyfredol, a darganfod ein talismans hynafol, wedi'u hysbrydoli gan y cloddiad; a gwyliwch wrth i'r safle ddod yn fyw gyda pherfformiad theatr ddefodol newydd gan yr artist o fri rhyngwladol Clare Parry-Jones.

Mae’r digwyddiad am ddim i’w fynychu, ond mae tocynnau’n hanfodol. Tocynnau ar gael o wefan Cadw.

Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau yn Cadw: 

“Mae Bryn Celli Ddu yn heneb anhygoel, ac yn safle gwych i hyrwyddo archaeoleg a hanes toreithiog Ynys Môn. Mae cyfuno hanes cyfoethog henebion archaeolegol a’r celfyddydau gyda digwyddiadau fel hyn yn helpu i agor y safleoedd i fwy o bobl fwynhau a dod â threftadaeth a hanes Cymru yn fyw mewn ffordd gofiadwy.”

I gael rhestr lawn o ddigwyddiadau’r haf, ewch i www.llyw.cymru/cadw, dewch o hyd i Cadw ar Facebook neu dilynwch @cadwcymruwales ar Instagram.